Diweddariad ar Brosiect Papurau Penrhyn Jamaica
Ym mis Rhagfyr 2024, fe wnaethom adrodd bod Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor a Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i ddigideiddio a darparu mynediad ar-lein i Bapurau Jamaica yn Archif Ystad y Penrhyn ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r prosiect bellach wedi hen ddechrau, ac mae tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig, gan gynnwys Ymchwilydd Doethurol Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Alex Ioannou sydd wedi’i benodi’n Gynorthwyydd Ymchwil a Digido, yn y broses o ddethol a digideiddio cofnodion i’w cyflwyno ar-lein ar JSTOR. Mae tri deg tri o eitemau wedi'u digideiddio a'u huwchlwytho i JSTOR hyd yn hyn.

Archif Ystâd y Penrhyn yw’r casgliad mwyaf arwyddocaol a chronolegol eang o gofnodion yn ymwneud â gweithrediad caethwasiaeth ar draws yr Iwerydd. Mae’n adlewyrchu bron i 700 mlynedd o gysylltiad a rheolaeth teulu Pennant o’u hystadau ar draws Jamaica, Lloegr a Chymru. Mae cofnodion yn cynnwys: cyfrifon, gweithredoedd, rhestrau eiddo, llythyrau, rhestrau o gaethweision, mapiau, arolygon, cynlluniau ac ewyllysiau. Y ddogfen gynharaf ynglŷn â Jamaica yng Nghasgliad y Penrhyn yw grant tir 1666 yn Clarendon gan Siarl II i “Thomas Alwinkle”.

Ategwyd gallu teulu Pennant i gronni, rheoli, gwella a manteisio ar eu hystadau gan gyfoeth a gasglwyd yn sgil caethiwo pobl Affrica ar eu planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Roedd y teulu’n berchen ac yn rheoli llawer o’u daliadau tir yn gyfochrog am gyfnodau hir o amser ac mae’r archifau’n cadw cofnod manwl o weithrediadau byd-eang y teulu. Mae'r rhain yn cynnwys - rheoli eu planhigfeydd siwgr; bywydau Affricanwyr caethiwus; gwleidyddiaeth gwladychiaeth a diddymu; hanes ôl-gaethwasiaeth y Caribî; y cyfoeth a gynhyrchir drwy'r diwydiant siwgr; a buddsoddiad y cyfoeth hwn ar draws sefydliadau amaethyddol, diwydiannol, crefyddol, gwleidyddol, dinesig ac addysgol gogledd-orllewin Cymru.
Mae tîm Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn ceisio datgelu a chwestiynu eu hymarferion archifol eu hunain a'r geirfaoedd sy'n cynnal hierarchaethau pŵer trefedigaethol. Mae’r prosiect yn ceisio grymuso unigolion a chymunedau ledled Cymru ac yn rhyngwladol i ymgysylltu â’r adnoddau a’r dystiolaeth hanesyddol, trwy eu lens eu hunain.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect digido, a’i fentrau dilynol, drwy ddilyn Casgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ac Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.
Casgliadau Arbennig Prifysgol Bangor - Facebook a BlueSky: @ArchPBU
Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru - BlueSky, Facebook, Instagram a Twitter: @YstadauCymru
