Dr Mary Oldham a Hanes Ystâd Gregynog
Llongyfarchiadau mawr i Mary Oldham, a lwyddodd ar y 19eg o fis Chwefror i amddiffyn ei thraethawd doethuriaeth a chael ei PhD! Mae traethawd ymchwil Mary, ‘Proprietors, People, Transition and Change on a Welsh Estate: Gregynog Hall, Montgomeryshire, 1750-1900’, yn dadansoddi 150 mlynedd o hanes ystâd Gregynog ac yn ychwanegiad i'w groesawu at hanesyddiaeth Cymru wledig, sir Drefaldwyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac astudiaethau ystadau.
Mae’r llwyddiant hwn yn nodi uchafbwynt taith hir i Mary, a ddechreuodd pan fu’n astudio yn Aberystwyth ar gyfer diploma mewn Llyfrgellyddiaeth yn y 1960au. Er bod hyn wedi arwain at uwch swyddi mewn llyfrgelloedd yn Sir Drefaldwyn a Sir Ddinbych, teimlai fod y llwybr gyrfa yr oedd arno yn 'rhy reolaethol' ac anniddorol. Felly, wedi'i hysbrydoli gan 'gyfnod gwrthryfel' y 1970au, cefnodd Mary ar ei gyrfa fel llyfrgellydd ac ymunodd ag Ysgol Economeg Llundain i astudio gwleidyddiaeth a hanes.
Ar ôl graddio, dilynodd llwybrau gyrfa amrywiol, a hwnnw’n llwybr troellog iawn; gan gynnwys gweithio i Ddur Prydain, Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, a dechrau gyrfa addawol fel awdur ffuglen i oedolion ifanc, cyn ymgartrefu o’r diwedd yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn yn y 1980au. Unwaith eto, heb allu gorffwys ar ei rhwyfau, ymdaflodd Mary yn llwyr i fentrau cymunedol lleol, gan ei harwain yn anochel at ddrysau Neuadd Gregynog gerllaw – safle a gyplysir â Sir Drefaldwyn. Cyn hir daeth yn elfen anhepgor yng ngweithgarwch Gregynog, i ddechrau yn rhedeg y plasty yn rhan o Brifysgol Cymru, ac yn fwy diweddar fel Ymddiriedolaeth Gregynog annibynnol. Mae hyn wedi cynnwys arwain teithiau o amgylch y stâd, cynnal sgyrsiau ar ei hanes, a chynorthwyo yng Ngwasg Gregynog, heb sôn am ei gwaith yn llyfrgellydd yn y plas. Trwy ei gwaith diflino, a’i natur naturiol gydwybodol a chwilfrydig, daeth Mary cyn pen fawr o dro yn ystorfa anhygoel o wybodaeth ar hanes Gregynog.
Yn ei swyddi amrywiol ym Mhlas Gregynog, ac wrth ymchwilio i’r ardal gyfagos, y daeth Mary dan swyn hanes cynharach, llai adnabyddus, y plas. Heddiw, adwaenir Gregynog yn bennaf fel cartref Gwendoline a Margaret Davies, dwy hynod bwysig a hynod hael ym maes casglu celfi,a brynodd y plasty yn 1920 gyda'r nod o'i droi'n ganolfan ddiwylliannol i Ganolbarth Cymru. Tra bod hon yn stori ddiddorol ynddi’i hun, teimlai Mary serch hynny fod y naratif poblogaidd ynghylch Gregynog yn troi’n ormodol o gwmpas y ddelwedd a luniwyd gan y chwiorydd Davies yn yr ugeinfed ganrif, a sylweddolodd gyda dim ond ychydig o grafu’r wyneb, fod yna hanes gwleidyddol diwylliannol a chymdeithasol gyfoethog i’r ystâd a'i thrigolion na chafodd ei adrodd i raddau helaeth.
'Cafodd fy niddordeb yn hanes cynnar Gregynog ei danio gan ffrindiau a hanai o deuluoedd a fu gynt yn denantiaid fferm', meddai Mary, 'a gwyddwn fod cymaint mwy i'w ddweud am yr ystâd. Ac felly roedd arna i eisiau achub y Gregynog cynnar er lles yr holl ffermydd a'u teuluoedd, a dangos sut yr esblygodd mewn cyfnod o newid economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol chwyldroadol.'
Cefnogwyd PhD Mary gan Ymddiriedolaeth Gregynog gyda'r bwriad o gynnwys ei chanfyddiadau yn y ffordd y caiff y safle ei dehongli a'i chyflwyno i'w hymwelwyr a'i chefnogwyr amrywiol. Mae'r traethawd ymchwil yn edrych ar 150 mlynedd o drawsnewid ar ystâd Gregynog, o'r cyfnod y bu'r olaf o deulu’r Blayneys yn berchen ar y plas, sef yr hen berchnogion teuluol, ar y newid dwylo niferus a fu o ran perchnogion a rheolwyr wedi hynny, ac yna ymlaen i ddechrau'r ugeinfed ganrif pan brynwyd y plas gan Daviesiaid Llandinam, ond gyda phwyslais cyson ar ei rhyng-gysylltiadau â chymuned a lle.
Mae’r traethawd ymchwil yn archwilio llu o themâu trwy brism Plas Gregynog, megis ei le mewn gwleidyddiaeth ryddfrydol leol a chenedlaethol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, esblygiad ei hunaniaeth ddiwylliannol ar ororau Cymru, a’i effaith ar y dirwedd o’i gwmpas, gan gynnig ‘safbwyntiau newydd ar ganfyddiadau traddodiadol o hunaniaeth a chymdeithas Gymreig yn y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig mewn perthynas â swyddogaeth y tirfeddianwyr yn esblygiad trefn gymdeithasol newydd yng Nghymru ddiwedd oes Fictoria’. Arholwyd y traethawd ymchwil gan yr Athro Annie Tindley (Prifysgol Castellnewydd) a Dr. Mari Wiliam o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mangor.
Roedd Mary yn un o ymchwilwyr doethurol cyntaf Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ac felly mae ennill y PhD yn adeg arbennig o falch, iddi hi ac i bawb sy'n gysylltiedig â'r ganolfan ymchwil. O’r eiliad y dechreuodd Mary ar ei hymchwil yn 2018, roedd hi’n teimlo’n gartrefol iawn yn nhîm Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mangor, ac mae wedi gwneud llawer o ffrindiau oes ar hyd y ffordd, gan alw ei hamser gyda'r sefydliad yn ‘6 mlynedd fwyaf gwerth chweil fy mywyd’.
Roedd Mary wrth ei bodd yn rhan o gymuned ddeallusol fywiog a aeth i’r afael â rhai o’r dadleuon allweddol ynghylch hanes Cymru, Prydain, ac yn wir hanes rhyngwladol, i gyd o ogwydd ei hystadau tir.
'Rhoddodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru y cyd-destun delfrydol i mi wneud fy ymchwil, yn syml oherwydd ei gylch gorchwyl i edrych ar ran ystadau tir ledled Cymru. Wrth edrych ar yr agwedd bwysig hon ar hanes Cymru, mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn gwneud gwaith hollbwysig i adeiladu darlun o esblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru dros y canrifoedd, a’r effaith a gafodd y byd cyfnewidiol hwn – a’r Gymru gyfnewidiol hon – ar ddynion a merched Cymru o bob dosbarth yr oedd eu bywydau yn dibynnu ar, neu'n elwa o, ei hystadau tirol'.
Cyd-oruchwyliwyd PhD Mary gan Dr. Lowri Ann Rees a Dr. Shaun Evans: 'Fel goruchwylwyr fe sicrhaodd Shaun a Lowri fy mod yn herio fy holl ffynonellau – ac fe wnaethon nhw herio fy holl honiadau a chasgliadau! Cawn fy herio i edrych ar gyd-destun ehangach themâu amrywiol fy nhraethawd ymchwil, megis twf y dosbarth bonedd a hawliadau teuluoedd o statws ac awdurdod, materion olyniaeth, gwelliannau amaethyddol, agweddau at dirwedd, a newid gwleidyddol. Fe wnaeth hyn oll gyfoethogi fy nealltwriaeth o fy mhwnc yn fawr - ac o edrych yn ôl mae wedi rhoi’r awydd imi ysgrifennu'r traethawd ymchwil eto!'
Dywedodd Dr Shaun Evans: 'O'r eiliad y cysylltodd Mary i drafod y posibilrwydd o wneud doethuriaeth ar hanes Gregynog rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan ei hangerdd am y lle hwn, ei gwybodaeth anhygoel a'i hawydd i wybod mwy! Bu gweithio gyda Mary a chefnogi datblygiad ei hymchwil yn bleser pur ac rydw i mor falch o'i chyflawniad. Deallodd Mary amcan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru o’r cychwyn cyntaf ac mae ei phroject wedi gwneud cyfraniad mor bwysig at ein hymdrechion i ddyfnhau, cyfoethogi a herio dealltwriaeth sefydledig o hanes, diwylliannau a thirweddau Cymru. Mae haeriad Mary fod Gregynog o bwys ehangach i gymdeithas a chymuned, y tu hwnt i ddiddordebau a hunaniaeth ei olyniaeth o berchnogion, yn rhywbeth sy'n cyd-fynd yn agos ag agwedd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru. Mae ei hastudiaeth nid yn unig yn dangos gwerth astudiaethau achos ar ystadau penodol, ond mae'n tynnu sylw at yr angen i ddeall y berthynas rhwng tir a grym gan gyfeirio at natur benodol lle.'
Ychwanegodd Dr. Lowri Ann Rees 'mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Mary dros y chwe blynedd diwethaf. Mae ei PhD yn taflu goleuni gwerthfawr ar hanes cynharach ystâd Gregynog cyn y chwiorydd Davies, ac yn amlygu arwyddocâd yr ystâd yn y gymuned leol, ond hefyd, yn ehangach yn sirol ac yn genedlaethol. Mae gwybodaeth helaeth Mary o’r ystâd, ei hymwneud meddylgar â’i ffynonellau, ac yn hollbwysig, ei brwdfrydedd a’i hangerdd dros ei phroject ymchwil wedi bod mewn difri yn ysbrydoliaeth fawr. Llongyfarchiadau mawr, Dr Oldham!'
Mary oedd y cyntaf yn ei theulu i raddio o brifysgol, a nawr gall hefyd honni'n falch mai hi yw’r cyntaf yn y teulu i ennill doethuriaeth, ac ar hyn o bryd yr unig un, er ei bod yn hapus cyfaddef bod ei gor-neiaint yn dynn wrth ei sodlau! 'Mae’n destun difyrrwch mawr i fy nheulu mai Dr Oldham ydw i nawr. Maen nhw wedi bod hyd yn oed yn waeth ers i fy nhystysgrif gradd gyrraedd, yn cellwair am y ffaith ei fod yn ddyddiedig 1 Ebrill 2024, ac felly mae’n rhaid ei fod yn rhyw fath o ffŵl Ebrill!'
Felly, beth sydd nesaf i Dr Oldham? Wel, er y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl y byddai cwblhau traethawd doethurol a phasio viva yn haeddu seibiant haeddiannol, nid yw Mary yn dangos unrhyw arwyddion o arafu unrhyw bryd yn fuan! Yn ogystal â chymryd swydd newydd gyda Chlwb Powysland, bydd Mary yn dod ar ofyn Gwasg Prifysgol Cymru yn fuan i holi am y posibilrwydd o droi ei thraethawd ymchwil yn llyfr, er mwyn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o Gregynog a chyfrannu rhywbeth nodedig at hanesyddiaeth Cymru. Ymhellach, mae'n dal i fwriadu parhau ac ehangu ar yr ymchwil doethurol, gan ymchwilio i hanes trawswladol yr ystâd, gan edrych ar ei chysylltiadau ag Iwerddon.
Llongyfarchiadau gwresog i Dr Oldham. Dymunwn y gorau iddi at y dyfodol ac edrychwn ymlaen at gynnal cysylltiadau agos â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru am flynyddoedd lawer i ddod!
Llongyfarchiadau Mary!
(gan Sean Martin)