Lansio ap realiti estynedig newydd M[AR]gam
Mae Castell Margam gyda’i dwr wythonglog yn dirnod cyfarwydd yn nhirwedd Port Talbot, ond erbyn hyn mae ap realiti estynedig arloesol o’r enw ‘M[AR]gam’ yn galluogi ymwelwyr i archwilio ei du mewn coll am y tro cyntaf. Lansiwyd yr ap yn y Castell ar y 23ain o Ionawr 2025, ac aeth ein Cydymaith Ymchwil ac Ymgysylltu Bethan Scorey draw i ddarganfod mwy.
Plasdy trawiadol yn y steil Diwygiad Tuduraidd yw Castell Margam, a adeiladwyd ym 1830-35 i gymryd lle plasty Tuduraidd go iawn ar yr un safle. Yr adeiladwr oedd Christopher Rice Mansel Talbot (1803-1890), a oedd wedi datblygu ystâd Margam yn waith haearn a wasanaethid gan borthladd yn ddiweddar, a’i bensaer oedd Thomas Hopper (1776-1856), oedd hefyd yn gyfrifol am Gastell Penrhyn ger Bangor.
Parhaodd Castell Margam ym mherchnogaeth y teulu Talbot tan 1941, pan werthwyd y tŷ i dirfeddiannwr lleol a gwerthwyd ei gynnwys mewn arwerthiant. Fodd bynnag, mae'r cyfnod o esgeulustod a ddilynodd a thân trychinebus 1977 wedi gadael y tu mewn yn wag. Mae’r tŷ a’i dir bellach yng ngofal Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sydd wedi agor y parc i’r cyhoedd ac wedi cychwyn ar raglen adfer uchelgeisiol.

Lansiwyd prosiect 'Margam Interiors', sef cydweithrediad rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Ymgynghoriaeth Tirwedd a Threftadaeth CFP, a Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth (CHART) ym Mhrifysgol Abertawe, yn 2023 er mwyn archwilio sut y gellid ail-greu’r tu mewn a gollwyd yn ddigidol.
Nid yn unig roedd gan Gastell Margam du mewn Fictoraidd eclectig, ond roedd hefyd yn gartref i gasgliad celf anhygoel y teulu Talbot, a ehangwyd dros sawl cenedlaeth. Prynwyd llawer o’r darnau Clasurol yn y casgliad gan Thomas Mansel Talbot (1747-1830) yn ystod ei Daith Fawr o amgylch Ewrop yn y 1770au, gan gynnwys y casgliad mwyaf o gerfluniau marmor hynafol yng Nghymru. Prynwyd nifer o'r paentiadau, gan gynnwys gweithiau gan feistri Iseldireg a Ffleminaidd, gan Christopher Rice Mansel Talbot yn benodol ar gyfer y tŷ newydd. Gwerthwyd mwy na thri chant o ddarnau o’r casgliad hwn yn ystod yr arwerthiant pedwar diwrnod ym 1941, a hwyluswyd gan Christies, ac o ganlyniad mae’r casgliad wedi’i wasgaru dros y lle i gyd, gyda darnau yn Amgueddfa Gelf Chrysler yn Virginia, Sefydliad Celf Detroit, a Sefydliad Georigio Cini yn Fenis.
Ym mis Chwefror 2024 rhoddwyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i brosiect 'Margam Interiors' er mwyn creu ap newydd o’r enw ‘M[AR]gam’. Mae'r ap, a lansiwyd ym mis Ionawr 2025, yn caniatáu i ddefnyddwyr archwilio modelau digidol dwy ystafell ar lawr gwaelod y tŷ, yr Ystafell Fwyta a'r Llyfrgell, ar eu ffonau smart, naill ai yn y fan a'r lle fel profiad realiti estynedig neu o bell. Mae'r ap yn ryngweithiol a gall defnyddwyr glicio ar wahanol ddarnau o ddodrefn neu gelf er mwyn darganfod mwy amdanynt, ac am hanes y tŷ a’r teulu Talbot yn fwy cyffredinol.

Yn y lansiad ar 23 Ionawr 2025, roedd cyfle i drio'r ap ein hunain a chlywed am yr ymdrech gydweithredol i’w greu. Mabwysiadodd partneriaeth y prosiect ymagwedd hanes cymunedol o’r cychwyn cyntaf, gan weithio’n agos gydag arbenigwyr lleol a grwpiau hanes cymunedol megis Cyfeillion Parc Margam a Chymdeithas Hanes Port Talbot i gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am y tu mewn hanesyddol.
Nesaf, ategwyd yr ymchwil hwn gan astudiaeth systematig o gofnodion hanesyddol ac archifau, dan arweiniad Dr Hilary Orange, Dr Leighton Evans a Beau Jones o CHART. Gan ddefnyddio dadansoddiad sylfaenol o ffabrig yr adeilad sydd wedi goroesi, ffynonellau archifol megis hen ffotograffau a chatalogau gwerthu, a gwybodaeth gan aelodau o'r teulu Talbot, llwyddodd y tîm i ailgreu’r Ystafell Fwyta a’r Llyfrgell, gan gynnwys y papur wal brocêd sydd wedi’i ail-greu yn seiliedig ar ddarnau gwreiddiol a ddarganfuwyd ar y waliau. Yr her nesaf oedd ymchwilio i darddiad y gweithiau celf yn y casgliad a chysylltu ag orielau a chasglwyr ledled y byd i gael caniatâd i’w hatgynhyrchu’n ddigidol.

Ar yr ochr ddigidol, comisiynwyd Greenhatch i greu model digidol o’r tŷ, a oedd yn cynnwys tynnu miloedd o luniau gyda drôn, tra gafodd yr ap ei hun ei ddatblygu gan y stiwdio realiti estynedig o Fryste Zubr.
Mae’r ap arloesol hwn yn cynnig ffordd newydd o ddehongli plastai lle mae’r tu mewn wreiddiol wedi’i golli a lle mae’r gost o’i adfer yn afresymol. Mae’n rhoi cyfle unigryw i fwynhau casgliad celf Talbot sydd bellach yn wasgaredig yn union fel y cafodd ei guradu, gyda thua wyth deg y cant o’r paentiadau wedi'u dangos yn eu hunion leoliad gwreiddiol.
Mae manteision dehongli digidol yn niferus. Mae ganddo’r potensial i ddatgloi gwahanol gyfnodau o hanes ar un safle heb fawr o ymyrraeth, sy’n arbennig o berthnasol i Gastell Margam sydd â bryngaer o’r Oes Haearn, mynachlog Sistersaidd Eingl-Normanaidd, tŷ gwledda Jacobeaidd, ac Orendy Neo-Glasurol o’r ddeunawfed ganrif yn ei pharc. Mae hefyd yn bosib defnyddio’r ap o bell, gan wneud Castell Margam yn hygyrch i’r rhai nad ydynt yn gallu ymweld yn bersonol ac i ddefnyddwyr ledled y byd. O safbwynt curadurol, mae gan y dull hwn y potensial i gynhyrchu dehongliad o ansawdd uchel yn gynt o lawer – yn rhyfeddol, cymerodd yr ap M[AR]gam ychydig dros flwyddyn i’w greu o’r cysyniad i’r cyflwyno.
Mae Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru'n anfon ein llongyfarchiadau i bartneriaid y prosiect ar lwyddiant yr ap. Mae modd lawrlwytho ap o'r Google Play Store neu'r App Store.