Mae Dr Alec Moore, darlithydd mewn cadwraeth ysglyfaethwyr mwyaf y môr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Bangor, wedi ennill cyllid gan UK Research and Innovation (UKRI) trwy gynllun peilot dull ymatebol newydd y cynghorau ymchwil (CRCRM). Mae project Dr Moore yn un o 36 o brojectau sy'n rhannu £32.4 miliwn o rownd gyntaf y cynllun, sydd wedi ei gynllunio i gefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol.
Mae'r project, dan arweiniad Dr Moore, gyda’i gyd-ymchwilwyr Jan-Geert Hiddink, Athro Bioleg y Môr a Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn integreiddio adroddiadau hanesyddol gyda gwyddor y môr fodern fel sail i reolaeth gynaliadwy o ecosystemau’r môr. Mae’r project yn canolbwyntio ar benwaig yr Iwerydd, rhywogaeth allweddol yn ecosystem gogledd-ddwyrain yr Iwerydd y mae’r boblogaeth wedi gostwng ers canol yr 20fed ganrif. Nod y project yw defnyddio data hanesyddol i nodi ardaloedd pwysig i silio penwaig a deall tueddiadau hirdymor silio sy’n gysylltiedig â newidiadau yn yr hinsawdd.
Bydd yr ymchwil yn dadansoddi ffynonellau hanesyddol o'r 17eg ganrif tan ddechrau'r 20fed ganrif yn bennaf, gan gynnwys ysgrifau gan naturiaethwyr a theithwyr modern cynnar, archifau papurau newydd, ymholiadau gan y llywodraeth, ac atgofion pysgotwyr heddiw.
Meddai Dr Moore, "Bydd y dull rhyngddisgyblaethol hwn yn ein helpu i ddeall amgylcheddau hanesyddol y môr a chymhwyso'r wybodaeth honno i reolaeth ecosystem gyfoes."
Mae’r cynllun peilot CRCRM, a gyflwynwyd gan UKRI, yn cefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ac arloesol sy'n herio ffiniau academaidd confensiynol. Trwy annog dulliau trawsnewidiol, nod y cynllun yw galluogi ymchwil a allai arwain at greu disgyblaethau newydd neu ddatblygiadau sylweddol yn y meysydd presennol. Lansiwyd ail rownd cyllid CRCRM, gyda £32.5 miliwn ar gael, y mis hwn hefyd i gefnogi projectau ymchwil rhyngddisgyblaethol eraill.
Mae hyn yn adeiladu ar gyllid blaenorol a gafodd y brifysgol yn 2021 gan gronfa Discipline Hopping for Environmental Solutions Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), a oedd yn annog academyddion i ystyried cyfleoedd cydweithio trawsddisgyblaethol. Daeth un o’r projectau a ariannwyd, dan arweiniad Alec a Shaun, â gwyddonwyr amgylcheddol o Ysgol Gwyddorau’r Eigion a haneswyr o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas at ei gilydd. Trwy weithdai ac ymweliadau archifol, hyfforddodd arbenigwyr o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas y gwyddonwyr i ddefnyddio data hanesyddol i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol. Gosododd y cydweithio hwn y sylfaen ar gyfer project presennol Alec a ariennir gan UKRI, gan dynnu sylw at werth integreiddio meysydd arbenigol amrywiol.
Meddai Dr Saskia Pagella, Pennaeth Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig Prifysgol Bangor, “Mae’r cronfeydd arian bach hyn sy’n arwain at grant mwy wedi gwireddu nod NERC gyda’r cyllid hwn i feithrin y dalent ryngddisgyblaethol orau a chreu arweinwyr sydd â’r rhagwelediad a’r gallu i fynd i’r afael â heriau rhyngddisgyblaethol.”