Ymchwilydd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn rhannu hanes merched lleol mewn hwb cymunedol newydd
Gyda'r nos ar 6 Tachwedd, gwahoddwyd un o ymchwilwyr PhD Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, sef Lizzy Walker, i roi sgwrs gyhoeddus yn Hwb Pentredŵr ar ‘Local(ish) Women and their Land, c.1600 to 1800’.
Codwyd yr adeilad, sydd ym mhentref Pentredŵr ger Llangollen, yn wreiddiol gan Gyngor Sir Ddinbych ym 1909 fel ysgol i wasanaethu’r boblogaeth leol, oedd yn cynyddu ar y pryd. Ar ôl 70 mlynedd o lwyddiant, caewyd yr ysgol ym 1982 gan mai dim ond nifer fechan o ddisgyblion oedd yn ei mynychu erbyn hynny. Prynodd Cymdeithas Gymunedol Pentredŵr a'r Cylch yr adeilad i'w ddefnyddio fel canolfan gymunedol am eu bod yn benderfynol o beidio â gweld yr adeilad pwysig hwn yn y gymuned yn mynd yn wag. Ers hynny, mae’r ganolfan, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Hwb Pentredŵr, wedi mynd o nerth i nerth ac yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau yn rheolaidd, megis dosbarthiadau celf, sesiynau i fabanod a phlant bach, gweithdai trwsio beiciau a sgyrsiau hanes.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Hwb Pentredŵr, mewn partneriaeth â’r cwmni buddiannau cymunedol Making Sense ac Amgueddfa Llangollen, gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, wedi bod yn archwilio hanes yr ardal leol a’i phobl, gyda phwyslais ar bwysigrwydd nodweddion gwledig ac amaethyddol yr ardal a'i chymunedau. Er enghraifft, yn ddiweddar, mae’r hwb wedi trefnu arddangosfa sy’n cynnwys ffelt o wlân defaid lleol, ac sy’n dangos yr amrywiaeth o nodau clust defaid y mae’r ffermydd lleol yn eu defnyddio.
Mae Lizzy wedi bod â diddordeb mawr ym mhrojectau’r hwb, gan iddi gael ei magu ar fferm yn y gymuned leol. Ar ôl ei hymwneud yn y project ffeltio gwlân ac ar ôl siarad am ei hymchwil doethurol ar ferched a thir yng ngogledd ddwyrain Cymru gyda Sian Hughes, rheolwraig Hwb Pentredŵr, cytunwyd y byddai Lizzy yn cyflwyno sgwrs yn y ganolfan.
Teitl cyflwyniad Lizzy oedd ‘Local(ish) women and their land, c.1600 to 1800’.1800'. Roedd y cyflwyniad yn trafod merched a oedd yn dirfeddianwyr a deiliaid tir, fel y gwelwyd mewn prydlesi yn Archifau Rhuthun a Phenarlâg, trwy bedair astudiaeth achos. Roedd tair o’r astudiaethau achos hyn yn canolbwyntio ar berchnogion tir yn ardal Wrecsam (Elinor Puleston o Hafod y Wern, Hannah Pate o Groes Howell, a Christian Pate o Groes Howell). Darparodd Lizzy gefndir bywgraffyddol i bob merch, gan egluro sut y daethant i fod yn berchnogion tir, yn ogystal â chefndir y tir a'r ystadau yr oeddent yn berchen arnynt. Aeth ymlaen wedyn i ddadansoddi’r prydlesi yr oedd y merched hyn yn ymwneud â hwy, gan drafod eu profiadau a’u disgwyliadau o ran y tir a’r stadau. Roedd yn amlwg bod pob un o’r merched yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o reoli a gwella’r tir. Roedd tebygrwydd rhwng y merched; roedd eu cefnogaeth a’u ffyniant eu hunain a’u hystadau yn chwarae rhan allweddol yn eu harddulliau rheoli, ond roedd y modd yr oedd y merched yn sicrhau hyn yn amrywio yn ôl unigolyn a’r cyfnod. Roedd y bedwaredd astudiaeth achos yn edrych ar grŵp o ferched a enwyd mewn prydlesi fel tenantiaid tirfeddianwyr. Dangosodd trafodaeth Lizzy am y merched hyn bod merched oedd yn denantiaid, yn gyffredinol, yn cael llai o gefnogaeth na dynion oedd yn denantiaid. Fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith bod disgwyl i’r merched hyn weithio’r tir ac ymroi i arferion gwella tir, gan ddangos, yn gyffredinol, nad oedd merched, boed yn dirfeddianwyr neu’n ddeiliaid tir, mor wahanol â hynny i’w cymheiriaid gwrywaidd. Daeth y sgwrs i ben gyda chwestiynau amrywiol gan y gynulleidfa – roedd y sgwrs wedi ennyn diddordeb pawb ac roeddent i gyd eisiau dysgu mwy.
Mae Lizzy yn bwriadu rhoi sgwrs arall yn Hwb Pentredŵr yn y flwyddyn newydd (dyddiad i’w gadarnhau) a fydd yn edrych yn fwy cyffredinol ar ferched a thir yng ngogledd ddwyrain Cymru, c.1600 i 1800.