Pecyn Cymorth Archifau Ystadau

‘Agor y Gladdgell’ – Creu pecyn cymorth ar-lein i wneud archifau ystadau yn fwy hygyrch, darganfyddadwy a defnyddiadwy

Yn 2017-18, derbyniodd Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Wobr Cyflymu Effaith ESRC am brosiect cyfnewid gwybodaeth a lwyddodd i ddod ag archifwyr ynghyd ag academyddion a defnyddwyr eraill archifau i drafod ffyrdd o wneud archifau ystadau yn fwy hygyrch, darganfyddadwy a defnyddiadwy.

Mae archifau ystadau yn rhan sylweddol o ddaliadau archifol y genedl ac yn darparu mewnwelediad unigryw i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol yng Nghymru dros ganrifoedd. Fodd bynnag, mae'r casgliadau hyn yn hynod gymhleth ac yn anodd ymgysylltu â nhw.

Llythyr hanesyddol gyda sêl gwyr.

Aeth y prosiect yn ei flaen fel cydweithrediad ar draws prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, dan arweiniad Dr. J. Gwilym Owen, Dr. Shaun Evans a Dr Julie Mathias, gyda chefnogaeth Archifau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a nifer o archifdai sirol Cymru.

Cynhaliwyd tri gweithdy cyfnewid gwybodaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Morgannwg ac Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor, a ddaeth ag archifwyr ynghyd ag academyddion, haneswyr lleol, haneswyr teulu, gweithwyr treftadaeth proffesiynol, rheolwyr tir ac asiantaethau amgylcheddoi drafod gwerth diwylliannol a deallusol archifau ystâd, eu defnyddiau amrywiol, heriau sy'n gysylltiedig â'u natur a'u cyfansoddiad, a chyfleoedd i wella hygyrchedd a darganfyddiad.

Daeth cyfranogwyr y gweithdy i’r casgliad y byddai pecyn cymorth ar-lein i helpu defnyddwyr i lywio gwahanol fathau o gofnodion ac archwilio themâu neu gwestiynau penodol yn fanteisiol iawn. Cyhoeddir adroddiad o'r prosiect yn Archives and Records 40, 1 (2019), 86-109. 

Un o amcanion hirdymor Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yw cyd-greu adnodd o'r fath.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?