O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Rwy’n dod o Birmingham ac wedi byw yn Sir Gaerfyrddin ers 1989.
Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? 'Aloof Among its Beeches' Llên Saesneg Cymru – cynrychioliadau o dai boneddigion o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen. Ymunais â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru fel ymgeisydd PhD oherwydd ei fod yn crynhoi cymaint o’m diddordebau ac mae ganddo garfan gefnogol o staff a chyd-ymchwilwyr.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Tai, teuluoedd a gerddi.
Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Mae gen i gefndir academaidd mewn astudiaethau Saesneg, rheoli twristiaeth ac archaeoleg tirwedd. Gweithiais ym maes garddwriaeth am flynyddoedd lawer ac ar brojectau cefnogi busnesau a ariannwyd gan Ewrop. Datblygais ddiddordeb mewn hanes lleol a arweiniodd at ddau lyfr, un yn hanes yr ysgol leol a'r llall yn hanes tirwedd ffermydd ac enwau caeau Blaenau Tywi. Cefais fy nghomisiynu yn ddiweddar gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i olygu hanes y safle, Ystad Middleton gynt. Rwyf bellach yn gweithio fel hanesydd llawrydd i sefydliadau treftadaeth a chleientiaid preifat.
Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Rwy'n hoffi ehangder y wybodaeth a'r gefnogaeth gan gymuned Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.
Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Mae fy ymchwil o bosibl yn taflu goleuni ar awduron benywaidd di-glod ac anghofiedig Cymru.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw fy hoff gyfnod hanesyddol yng Nghymru. Y newid o'r gwledig a’r bugeiliol, i gymdeithas ddiwydiannol drefol a adlewyrchir yn gryf mewn ffuglen Saesneg o Gymru.
Eich hoff le yng Nghymru a pham? Fy hoff le yng Nghymru yw Dinas ger Rhandir-mwyn adeg clychau’r gog ym mis Mai, cuddfan goediog Twm Sion Cati ar ochr bryn ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dechrau’r ail ganrif ar bymtheg.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Yn ddiweddar, bûm yn darllen Cambrian Pictures gan Anne o Abertawe, yr oedd ei bywyd ei hun bron mor anturus a melodramatig â’i nofelau, ac ‘African Europeans an Untold History’ gan Olivette Otele, trosolwg ysgolheigaidd o’r llu o straeon hynod ddiddorol am bresenoldeb hir Affricanaidd-Ewropeaidd ar y cyfandir. 'Through a glass darkly' gan Salman Rushdie ar BBC iplayer am yr ymosodiad diweddar arno a'i ganlyniadau. Mae podlediadau 'Empire' William Dalrymple ac Anita Anand yn hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymerodraeth a'i chanlyniadau.
Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Rwyf wrth fy modd yn darllen gweithiau llenyddol gan ferched o'r 30au a'r 40au, a Persephone Books yw’r cyhoeddwr y byddaf yn troi ato ar gyfer yr awduron hyn. Rwyf wrth fy modd yn tyfu amrywiaethau anarferol o blanhigion ac yn garddio mewn ffordd flêr. Rwy'n mynd i'r eglwys ac yn cerdded ar y bryniau sy'n amgylchynu'r dyffryn rydw i mor ffodus i fyw ynddo.
Cysylltwch â Sara:
srf21svz@bangor.ac.uk