O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Rwy'n frodor o Fangor, lle rwy'n dal i fyw.
Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Hanes y Dirwedd, Daearyddiaeth Ddiwylliannol/Dynol, Hanes cyfoes gwleidyddol a diwylliannol Cymru, Hanes Parc Cenedlaethol Eryri
Pryd wnaethoch chi ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Rwy’n gymharol newydd, a dim ond ym mis Ebrill 2024 yr ymunais â’r Sefydliad fel Cydymaith Ymchwil ac Ymgysylltu. Teitl fy mhrosiect doethurol yw ‘Contested Landscapes: The reactions and answers to the siteing of Trawsfynydd power atom-station, 1957-59’ ac er nad yw fy ymchwil doethurol yn uniongyrchol gysylltiedig â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, mae llawer o orgyffwrdd deallusol ac ysgolheigaidd rhwng fy maes astudio a’r ymchwil a wneir gan y garfan, megis trafodaethau am dirwedd wledig Cymru, ei diwylliant a thrafodaethau ynghylch hunaniaeth genedlaethol. O ganlyniad, roeddwn yn gyffrous i gael fy ngwahodd i’r gymuned hon o ddiddordebau deallusol a rennir, ac rwy’n gobeithio cael cryn fewnwelediad yn y misoedd nesaf.
Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Tra bod fy ymchwil ddoethurol yn canolbwyntio ar dynged y Gymru wledig ar ôl y rhyfel, rhaid imi gyfaddef mai fy hoff gyfnod mewn hanes yw Groeg Glasurol a Helenistaidd. Yn deillio o’m cariad at lenyddiaeth a mytholeg hynafol, rydw i wedi cael fy swyno’n llwyr ers tro gan Athen Pericles, Sparta hynafol, Thebes a Chorinth, a’r oracl chwedlonol yn Delphi, a ffyniant diwylliant a chelf, theori wleidyddol, a darganfyddiad gwyddonol y bu i’r cyfnod hwn ei feithrin. Yn ogystal, rwyf wedi fy nghyfareddu gan y frwydr aruthrol dros oroesiad a ddioddefodd y clytwaith hwn o ddinas-wladwriaethau Groeg yn erbyn nerth Ymerodraeth Persia, fel y dywedodd Tad Hanes, Herodotus yn enwog (er fy mod i hefyd wrth fy modd â'r ffraeo diddiwedd rhwng y gelynion Groegaidd ffyrnig hyn am oruchafiaeth eithaf tir mawr Groeg!)
Eich hoff le yng Nghymru a pham? I mi, does dim byd yn curo ardaloedd chwareli llechi gogledd Cymru. Dim ond yn y tirweddau ôl-ddiwydiannol hyn y gallwn weld y briodas greulon rhwng ‘dyn’ a ‘natur’, a’r tensiwn rhwng ‘diwylliant’ a ‘harddwch’, themâu a chysyniadau sydd i bob golwg mor groes i’w gilydd, i’w gweld mor fyw o flaen ein llygaid. Ac fel cerddwr / nofiwr / beiciwr brwd, rwyf wrth fy modd yn ymweld â’r tirweddau hyn o’r newydd, i ystyried sut y cawsant eu defnyddio yn y gorffennol, sut y maent wedi cael eu gweld gan wahanol bobl, a sut mae swyddogaeth yr amgylcheddau hyn wedi newid dros y blynyddoedd.
Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Mae gen i obsesiwn llwyr â “The Rest is History”. Wedi’i gyflwyno gan yr haneswyr Prydeinig Tom Holland a Dominic Sandbrook, mae’r podlediad hwn yn llawn gwybodaeth, yn graff, ac yn fwy na dim yn hynod ddifyr! O Alecsander Fawr i Harold Wilson, o suddo’r Titanic i ‘History’s Greatest Monkeys’, mae gan y podlediad hwn rywbeth at ddant pawb, ac mae’n cael ei gyflwyno’n wych gan Holland a Sandbrook, sydd i bob golwg yn meddu ar wybodaeth ddiddiwedd o’r pynciau dan sylw. Disgwyliwch bynciau hynod ddiddorol, dadansoddiad hanesyddol arbenigol, ac acenion hynod ddoniol!
Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Dwi'n hoff iawn o awyr agored gwych Cymru, ac felly dwi wir yn fy elfen yn y gogledd. Rwy’n ceisio ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri mor aml ag y gallaf, i ddringo ei gopaon, beicio ei ffyrdd tawel, a nofio ei lynnoedd a’i afonydd. Rydw i hefyd yn rhedwr brwd, ac rydw i bob amser “wrthi’n hyfforddi” ar gyfer hanner marathon neu driathlon, sydd byth yn digwydd yn rhyfedd iawn! Yn ogystal, fel awdiogarwr brwd rwyf wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth, hen a newydd, ac rwy'n hoffi ceisio ail-greu'r synau hardd hynny ar fy ngitâr, gyda chanlyniadau cymysg!
Cysylltwch â Sean:
engage.iswe@bangor.ac.uk