Y Papurau Paget

Prosiect Interniaeth Israddedig Prifysgol Bangor

Yn 2019, derbyniodd Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor (BUASC) gasgliad newydd o bapurau o Blas Newydd, Ynys Môn, trwy law 8fed Marcwis Ynys Môn, Alexander Paget.

Rhennir y casgliad yn 5 cyfres sy’n ymwneud â bywydau, diddordebau a gweithgareddau pum aelod o’r teulu Paget ar draws diwedd y 19eg a’r 20fed ganrif, sef:

Menyw mewn archif yn trin dogfennau
  • Almeric Hugh Paget, Barwn Queensborough (1861-1949)
  • Henry Cyril Paget, 5ed Ardalydd Môn (1875-1905)
  • Charles Henry Alexander, 6ed Ardalydd Môn (1885-1946)
  • Marjorie, Arglwyddes Mon (1883-1946)
  • Arglwyddes Caroline Duff (1913-1976)

Ymunodd y casgliad helaeth o 69 o focsys mawr, sy’n cynnwys albymau lluniau, llyfrau lloffion, cyfnodolion, gohebiaeth, toriadau papur newydd, yn ogystal â dogfennau ariannol a gweinyddol,  chofnodion ystadau eraill Plas Newydd, sydd eisoes yn yr Archifau, wedi’u hadneuo dros gyfnod o 5 degawd.

Roedd BUASC ac Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru yn falch o gynnig Interniaeth Israddedig i gynorthwyo gyda’r prosesau o drosglwyddo’r casgliad o Blas Newydd ac integreiddio’r deunydd newydd i’r archifau. O dan arweiniad Archifydd y Brifysgol, Elen Wyn Simpson, helpodd Laura Patari, Myfyriwr Iaith a Llenyddiaeth Saesneg israddedig trydedd flwyddyn o’r Ffindir, ail-becynnu’r casgliad, cyflawni tasgau cadwraeth syml, rhifo’r dogfennau a mewnbynnu data i gatalog ar-lein CALM.

Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y myfyrwyr Seren, dywedodd Laura: ‘Mae’n gyffrous sylweddoli sut y gall dogfennau personol sy’n ymddangos yn gyffredin fel taflen, derbynneb neu agenda cyfarfod blethu hanes cyfoethog y person a’r byd o’u cwmpas.’

Mae modd gweld catalog y Papurau Paget ar-lein.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?