Cyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr iaith a therapyddion iaith a lleferydd
Mae Jazmine Beauchamp yn ymchwilydd PhD ail flwyddyn, yn ymchwilio i argaeledd a digonolrwydd adnoddau Cymraeg ar gyfer therapyddion iaith a lleferydd.
Roedd yr ail gynhadledd flynyddol Cyfnewid Sgiliau Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru ar 9fed Hydref ym Mhrifysgol Wrecsam, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Roeddwn i wedi derbyn gwahoddiad i gyflwyno fy ymchwil ar brofiadau therapyddion iaith a lleferydd yng Nghymru. Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno mewn cynhadledd leol a chysylltu â chymuned iaith a lleferydd Gogledd Cymru.
Thema’r gynhadledd oedd ‘dechrau mewn ymchwil ac arloesi’, gyda siaradwyr o sefydliadau fel Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a’r Gymuned ar gyfer Ymchwil Proffesiynau Perthynol i Iechyd (CAHPR) Cymru. Roedd y sgyrsiau yn gyfle cyffrous i ddod ag ymchwilwyr sy’n astudio datblygiad iaith a’r clinigwr sy’n rhoi’r ymchwil hwnnw ar waith ynghyd.
Roedd y prif siaradwr, yr academydd clinigol Emma Louise Sinnot, yn amlygu pwysigrwydd therapyddion iaith a lleferydd yn cynnal ymchwil, gan mai nhw yw’r cyntaf i weld bylchau yn yr ymchwil. Fodd bynnag, barn gyffredinol y clinigwyr oedd bod eu llwyth gwaith yn rhy drwm iddynt gynnal ymchwil hefyd. Fe wnaethon ni drafod pwysigrwydd cydweithio rhwng clinigwyr ac academyddion i sicrhau bod ymchwilwyr yn deall lle mae angen mwy o ymchwil.
Roedd fy nghyflwyniad yn rhan o sesiwn ‘sgyrsiau sydyn’ yn y prynhawn. Roeddwn i sôn am fy ymchwil, cyn gofyn i’r therapyddion iaith a lleferydd ymateb i fy holiadur. Roedd fy nghyflwyniad a holiadur yn ysbrydoli sgyrsiau am y diffyg adnoddau Cymraeg sydd ar gael i therapyddion iaith a lleferydd eu defnyddio gyda chleientiaid. Cawsom trafodaeth ddefnyddiol ynglŷn â pha adnoddau Cymraeg sydd eu hangen ar glinigwyr i ddarparu cefnogaeth effeithiol i’w cleientiaid dwyieithog.
Ar y cyfan, roedd Cyfnewid Sgiliau Iaith a Lleferydd Gogledd Cymru yn llwyddiannus yn dod â chymuned iaith a lleferydd Gogledd Cymru ynghyd i drafod ymchwil presennol, a syniadau ar gyfer y dyfodol.