Ymchwilwyr yn cyflwyno'r effeithiau gwybyddol ar blant o ddod i gysylltiad ag ail iaith
Mae Bethan Collins yn ymchwilydd PhD 3ydd flwyddyn mewn Dwyieithrwydd, yn astudio'r effeithiau gwybyddol o ddod i gysylltiad ag ail iaith yn ystod plentyndod.
Rhwng 11eg –13eg Hydref, roeddwn i fynychu’r 17eg Cynhadledd Ryngwladol ar Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Aristotle Thessaloniki, gyda fy ngoruchwyliwr Dr Athanasia Papastergiou (un o gydweithwyr academaidd y labordy, a chyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor). Roedden ni gyflwyno sgwrs, dan y teitl: “Archwilio Mantais Ddwyieithrwydd mewn Gweithrediad Goruchwyliol: Mewnwelediadau gan Blant Dwyieithog Groeg-Saesneg a Chymraeg-Saesneg yn y DU”. Roedd y cyflwyniad yn trafod canfyddiadau astudiaeth PhD Athy a fy astudiaeth PhD i, a ariannwyd ill dau gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru.
Roedd ein cyflwyniad yn rhan o’r sesiwn thematig, ‘iaith a gweithrediadau goruchwyliol mewn siaradwyr uniaith a dwyieithog’. Yma, roedden ni’n ffodus i gyflwyno ochr yn ochr ag ymchwilwyr arloesol eraill, sy’n ymchwilio ar weithrediadau goruchwyliol mewn plant uniaith a dwyieithog. Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i gysylltu ag ymchwilwyr o bob maes ieithyddiaeth, yn ogystal â pharhau â’r cydweithio presennol. Roedd hefyd yn gyfle gwych i archwilio mwy o Wlad Groeg, a oedd i'w groesawu’n fawr!
Mae Cymru yn arwain y byd o ran ymchwil dwyieithrwydd, diolch yn bennaf i gyllid PhD gan Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru. Roedd y gynhadledd yn lle gwych i rannu ein hymchwil gyda chydweithwyr sy’n gweithio yn aml mewn sefyllfaoedd uniaith. Mae’r byd yn dod yn fwy amrywiol, ac mae hyn yn golygu bod hyd yn oed y sefyllfaoedd mwyaf uniaith draddodiadol yn debygol o ddod yn fwy dwyieithog. O ganlyniad, mae’n hollbwysig bod pob ymchwilydd a gweithiwr proffesiynol yn gyfarwydd â dwyieithrwydd a’i ganlyniadau gwybyddol. Rydym yn gobeithio bod ein cyflwyniad wedi rhoi cipolwg newydd ar ddwyieithrwydd a’r manteision gwybyddol i'r rhai a oedd yn bresennol, a’u hannog i ystyried profiadau ieithyddol y poblogaethau y maen nhw’n gweithio gyda nhw.