Mae ystafelloedd gwely ar gael yn Neuaddau Preswyl Prifysgol Bangor. Cewch archebu ystafell unigol, neu i fyny i wyth ar gyfer grŵp: cliciwch ar y ddolen isod a rhoi CC19 yn y bocs 'Codau Cynnig Arbennig'.
Mae’n hystafelloedd gwely yn rhai sengl en-suite gyda chawod; dyfarnwyd iddynt safon ansawdd Llety Campws 4* gan Croeso Cymru.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae'r ystafelloedd hyn ar Safle Ffriddoedd, prif gampws preswyl y brifysgol, ryw ddeng munud ar droed o Brif Adeilad y Brifysgol, lle y cynhelir y Gyngres. Cynllun pob neuadd yw bod ‘fflatiau’ o wyth ystafell wely unigol, ac ymhob fflat mae cegin/lle bwyta ac ynddi oergell, rhewgell, stôf, popty microdon, tostiwr a thegell
Cyrraedd a Gadael
***Sylwch fod gan y dderbynfa yn Adeilad Idwal arwyddion i gyfeirio pobl at y Swyddfa Neuaddau ***
Cyrraedd - 2pm - 8pm
Cewch gasglu’r allwedd i’ch ystafell o'r Swyddfa Neuaddau ar ôl 2pm (Rhif 15 ar y map). Adeilad Idwal, Bangor LL57 2GP
Cyrraedd yn Hwyr (ar ôl 8pm)
Bydd swyddfa'r Neuaddau'n cau am 8pm. Os byddwch chi'n cyrraedd yn hwyrach, rhowch wybod cyn 5pm i’r Swyddfa Gynadleddau ar 01248 38 8088 neu cynadleddau@bangor.ac.uk.
Gadael - 9.30am
Dylid dychwelyd eich allweddi i’r swyddfa Neuaddau erbyn 9:30am ar ddiwrnod eich ymadawiad; fel arall, cewch adael eich allwedd yn y bocs allweddi y tu allan i'r Swyddfa Neuaddau. Codir tâl o £20.00 os collir allweddi.
Trafferthion wrth archebu eich ystafell
Os cewch unrhyw drafferth wrth geisio archebu, e-bostiwch aros@bangor.ac.uk neu ffonio aelod o'r Tîm Cynadleddau ar +44 (0) 1248 388088 (Llun - Gwener 9am - 5pm).
Codau Cynnig Arbennig
Nodwch y cod cynnig arbennig CC19. Bydd hyn yn eich galluogi i archebu ystafell a gadwyd yn benodol ar gyfer y Gyngres Geltaidd am y pris y cytunwyd arno.
Mae gan Y Ganolfan Rheolaeth 56 o ystafelloedd gwely 4 seren gydag ystafelloedd ymolchi ensuite. Mae llawer o'r ystafelloedd gwely gyda golygfeydd o'r Afon Menai ac Ynys Môn. Hefyd cewch gyfleusterau gwneud te a choffi a setiau teledu diweddaraf gyda sianelau teledu a radio digidol.
I Archebu ystafell, bydd angen i chi ebostio ni gan ddyfynu 2019 Celtic Congress.
www.bangor.ac.uk/management_centre