Yn anffodus, ni allwn ond darparu ar gyfer myfyrwyr cofrestredig llawn-amser mewn neuaddau oherwydd rheoleiddio'r Dreth Gyngor.
Mae'r system i wneud cais am lety yn agor mis Ionawr. Os ydych wedi nodi Bangor fel eich Dewis Cadarn trwy UCAS, byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost yr wythnos ganlynol i'ch gwahodd i wneud cais am lety. Rhaid i chi wneud cais cyn 31ain Gorffennaf i sicrhau lle mewn Neuaddau.
Os ydych i ffwrdd ar yr amser yma ac yn dymuno i aelod o'ch teulu i wneud cais ar eich rhan, gwnewch yn siwr fod gan y Brifysgol gyfeiriad ebost ar eu cyfer.
Os ydy Bangor yn newid i'ch Dewis Cadarn, cewch ebost yn eich gwahodd i wneud cais am lety.
Bob blwyddyn mae'r Brifysgol yn neilltuo nifer fechan o lety ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd eisiau amgylchedd tawelach. Byddwn yn rhoi manylion ar ein gwefan pa neuaddau a ddynodwyd yn neuaddau 'tawel'. Gall y rhain apelio'n arbennig at fyfyrwyr hŷn, ond nid yn gyfan gwbl felly. Mae'n bosib y bydd gormod o bobl yn gwneud cais i fyw yn yr ystafelloedd hyn, felly ni allwn addo y gallwn gyflawni eich dymuniad.
Byddwn yn gwneud ein gorau i ddweud wrth yr holl breswylwyr yn yr ystafelloedd hyn ein bod ni'n disgwyl amgylchedd tawelach, ond dylai'r holl breswylwyr werthfawrogi nad oes unrhyw fath o fyw cymunedol yn hollol dawel, ac mae'n anodd iawn diffinio 'tawel'. Mi fydd yn wastad yn fwy swnllyd na byw yn eich cartref eich hun. Yn ogystal, ni fydd bob amser yn bosibl rheoli faint o sŵn a ddaw o'r tu allan i'r neuadd neu'r coridor, a all fod y tu hwnt i'n rheolaeth.
Gallwch ddewis eich stafell gyda'ch ffrind.
Mae profiad wedi dangos i ni mai'r peth gorau yn aml yw PEIDIO â gofyn am ystafell wrth ymyl ffrind. Rydych yn fwy tebygol o wneud ffrindiau newydd a chael profiadau newydd os byddwch (fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr newydd) ar eich pen eich hun. Bob blwyddyn rydym ni'n dod ar draws myfyrwyr sydd wedi gofyn am gael eu rhoi wrth ymyl ffrind neu bartner a rhan o'r ffordd drwy'r flwyddyn nid ydynt yn dymuno bod yn y sefyllfa yma mwyach, ac nid oes llawer y gallwn ni ei wneud yn aml i ddatrys y sefyllfa os nad oes gennym ystafelloedd sbâr ar gael. Meddyliwch yn ofalus iawn cyn i chi ofyn am gael ystafell wrth ymyl ffrind neu bartner presennol.
Na. Anwybyddwch unrhyw wybodaeth rydych yn ei dderbyn ynglyn a llety'r Brifysgol.
Cewch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau. Bydd gennych gyfrif gyda Phrifysgol Bangor a rhoddir yr holl ffioedd llety a'r ffioedd hyfforddi ar y cyfrif hwn. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dewis gwneud taliad i'r Brifysgol mewn tri rhandaliad. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn anfon manylion llawn atoch yn eich Dyddiadur Wythnos Groeso pan gewch eich derbyn i'r Brifysgol a gallwch eu gweld hefyd ar wefan y Swyddfa Gyllid.
- Cysylltiad a'r rhyngrwyd
- Aelodaeth Campfa a Campws Byw
- Yswiriant
- Biliau Cyfleustodau
- Gofal Bugeiliol
Anwybyddwch y wybodaeth am lety. Byddwn yn cysylltu â chi eto cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol. Ond, awgrymwn eich bod yn cysylltu â'r Swyddfa Dderbyniadau (01248 383717) i sicrhau bod eu cofnodion yn gywir a'u bod yn deall eich bod yn gohirio cymryd eich lle.
Cysylltwch a'r Swyddfa Neuaddau cyn gynted a phosib. Sylwch rhaid i hyn fod cyn y dyddiad y bydd eich cytundeb preswyl i fod i ddechrau.
Darllenwch yr adran ar ein gwefan ar gyfer Myfyrwyr Nyrsio. Fel rheol byddwn yn rhoi myfyrwyr o'r Ysgol hon mewn un Neuadd Breswyl a fydd yn aros yn agored gydol y flwyddyn pan fydd ei hangen ar nyrsys a bydwragedd.
Os ydych yn ymgeisydd hwyr neu'n ymgeisydd Clirio, gofynnwn i chi wneud cais cyn gynted â phosib. Ni allwn sicrhau y byddwn yn cael hyd i ystafell i chi os na fyddwch wedi gwneud cais erbyn 31 Gorffennaf. Fodd bynnag, mae'n bur debygol y bydd gennym ystafelloedd ar gael o hyd i fyfyrwyr a fydd yn gwneud cais ar ôl y dyddiad hwn. Pan rydych yn gwneud cais gallwch weld pa ystafellodd sydd yn dal ar gael.
Mae neuaddau preswyl yn cynnig ystafelloedd ar gyfer y flwyddyn academaidd lawn yn unig. Rydym yn eich annog i ddewis lle mewn neuadd, ond efallai y bydd rhai myfyrwyr, e.e. myfyrwyr hŷn neu fyfyrwyr â theuluoedd, angen rhentu'n breifat. Mae Swyddfa Tai Myfyrwyr y Brifysgol ar wahân i'r Swyddfa Neuaddau; mae'n cadw cronfa ddata o lety preifat ac yn rhoi gwybodaeth a chymorth.
Ffôn: 44 (0)1248 382034
E-bost: studenthousing@bangor.ac.uk
Os oes gennych anabledd sy'n effeithio ar y math o lety rydych ei angen, cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
Defnyddir gwybodaeth am anableddau at ddibenion pennu llety addas yn unig. Ni allwn warantu y bydd cyfleusterau addas ar gael. Rydym yn annog myfyrwyr sydd ag anableddau, gan gynnwys anableddau 'cudd', fel epilepsi neu glefyd siwgr, i gysylltu â'r cynghorwr anabledd ar y rhif ffôn: 44 (0)1248 382032 neu e-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk Bydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal â'ch cymhwyster ar gyfer cyllid ychwanegol.
Ar hyn o bryd, nid yw'r Brifysgol yn berchen ar nac yn rheoli llety ar gyfer teuloedd. Os ydych yn fyfyriwr sydd yn dod i Fangor gyda'ch teulu, dylech gysylltu gyda Swyddfa Tai Myfyrwyr am gymorth gyda rhentu llety pwrpasol yn y sector breifat.
Swyddfa Tai Myfyrwyr - taimyfyrwyr@bangor.ac.uk +44 (0)1248 382034 Mae gan wefan y Swyddfa Tai Myfyrwyr fwy o gyngor a gwybodaeth.
Gan fod prinder llety teuluol ar gael ym Mangor ar hyn o bryd, rydym yn eich cynghori'n gryf i deithio i'r DU yn unig a dod â'ch teulu draw i ymuno â chi ar ôl i chi ddod o hyd i lety addas.
Cewch wybodaeth am y trefniadau cyrraedd ym mis Awst wedi i chi ddewis eich ystafell.
Byddem yn rhoi'r cyfle i drosglwyddo ystafelloedd ychydig o wythnosau ar ôl dechrau'r tymor. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu sicrhau bydd eich dewis o lety ar gael.
Os ydych yn dymuno aros yng Ngogledd Cymru cyn y dyddiad cyrraedd a roddwyd i chi, cysylltwch â Thwristiaeth Gogledd Cymru ar +44 (0) 1492 531731 neu www.nwt.co.uk am fanylion llety a gymeradwyir gan Fwrdd Croeso Cymru.
Os ydych yn dymuno aros yng Ngogledd Cymru cyn y dyddiad cyrraedd a roddwyd i chi, cysylltwch â Thwristiaeth Gogledd Cymru ar +44 (0) 1492 531731 neu www.nwt.co.uk am fanylion llety a gymeradwyir gan Fwrdd Croeso Cymru.
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr mae'n RHAID i chi roi gwybod i'r Swyddfa Neuaddau. Mae ffioedd yn daladwy o ddechrau'r Cytundeb Preswylio yn mhob achos.
Peidiwch ag anfon unrhyw beth ymlaen llawn i'r Brifysgol, os gwelwch yn dda. Nid oes cyfleusterau storio ar gael.
Nac oes. Yn anffodus, ni allwn gynnig storio unrhyw beth yn ystod y gwyliau.
Am wybodaeth ar sut i ddefnyddio'r golchdai, dyma fideos i'ch helpu.
Nid oes llawer o le i gadw pethau mewn ystafelloedd myfyrwyr mewn unrhyw brifysgol. Rydym yn argymell eich bod yn dod â'r pethau yr ydych yn eu hystyried yn hanfodol y unig. Os anghofiwch unrhyw beth, mae digon o siopau ym Mangor. Dyma rai pwyntiau allweddol:-
- Bydd angen i fyfyrwyr ddod â'u potiau, sosbenni, cyllyll a ffyrc, llestri a dillad gwely eu hunain, gan nad yw'r rhain wedi'u darparu. Gallwch archebu eitemau o'r fath ymlaen llaw gan ein darparwr trydydd parti Unikitout.
- Bydd angen Tystysgrif Prawf Offer Cludadwy ar gyfer offer trydanol sydd dros flwydd oed.
- Mae'n ddrwg gennym nad oes lle ar gael i gadw eiddo dros ben neu fagiau mawr.
Mae synnwyr digrifwch, goddefgarwch tuag at gymdogion a pharodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd, gan gynnwys dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr, i gyd yn ddefnyddiol.
Mae pob ystafell wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd ac mae'r gost am ddefnyddio'r rhyngrwyd yn cael ei gynnwys yn y ffioedd Neuaddau.
Mae croeso i chi ddod â theledu gyda chi ond byddwch angen eich trwydded eich hun. Ni allwn sicrhau y bydd derbyniad da ym mhob un o'n hystafelloedd ac nid ydym fel rheol yn darparu cyswllt erial. Bydd angen i chi gael erial i'w ddefnyddio i mewn bron bob amser. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis gwylio teledu drwy eu cyfrifiaduron. Sylwer, o 1 Medi 2016 mae newid yn y gyfraith yn golygu bod angen cael trwydded deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni BBC ar alw ar iPlayer y BBC. Gweithredir hyn yn achos unrhyw declynnau, yn cynnwys teledu clyfar, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ffôn symudol, tabled, bocs digidol neu gonsol gemau. Cewch ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau teledu byw sydd ar gael ar ResNet yma.
Gallwch fel rheol. Mae manylion ynghylch sut i gysylltu dyfeisiau eraill heblaw eich cyfrifiadur â ResNet ar gael yma.
Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath yn y neuaddau.
Mae nifer cyfyngedig o drwyddedau meysydd parcio ar gael ar gyfer parcio ar y safle (gwnewch gais yn bersonol wrth Gofrestru). Fel arall, bydd rhaid i chi barcio ar y stryd, yn aml peth pellter o'ch neuadd. Mae ychydig o lefydd ar gael i gadw beiciau, OND ni ddylid cadw beiciau mewn neuaddau, gan gynnwys eich ystafell wely. Mae yna raciau beiciau y tu allan i nifer o neuaddau. Mae gennym hefyd nifer cyfyngedig o leoedd o fewn siediau beic gorchuddiedig ar bob un o'n pentrefi myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn gallu archebu ymlaen llaw a phrynu allwedd ar gyfer y siediau beiciau dan do cyn cyrraedd drwy ein siop ar-lein. Y gost yw £20 am y flwyddyn. Os byddwch yn cwblhau eich archeb cyn i chi gyrraedd Bangor, bydd allwedd sied y beic yn cael ei rhoi i chi gyda mynediad allweddol eich ystafell. Fodd bynnag, gellir gwneud hyn ar ôl i chi gyrraedd os yw'n well gennych neu os nad oes gennych eich beic eto. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol mai dim ond ychydig o leoedd sydd gennym ar y ddau bentref.
Oes, mae ychydig o bethau na chaniateir:
- Peidiwch â dod â gwresogyddion, canhwyllau, lampau olew, ffyn arogldarthau, offer coginio trydanol nac oergelloedd i'w defnyddio yn eich ystafell wely. Cewch ddod ag oergell fechan at ddibenion meddygol yn unig. Cysylltwch â'r Swyddfa Neuaddau i gael caniatâd.
- Peidiwch â dod ag arfau o unrhyw fath - dim replica hyd yn oed.
- Peidiwch â dod â dodrefn, e.e. gwely, wardrob neu gadair freichiau - fyddan nhw ddim yn ffitio!
- Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys pysgod.
Mae'r Brifysgol wedi trefnu yswiriant cynnwys sylfaenol gan Cover4insurance
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un o'u hymwelwyr i'r neuadd. Caniateir un ymwelydd dros nos am hyd at 2 ddiwrnod ar y mwyaf mewn unrhyw gyfnod o 7 niwrnod. Disgwylir i ymwelwyr gysylltu â'u cyd-breswylwyr a'u cymdogion cyn gwahodd gwesteion, a rhaid cofrestru bob gwestai.
Mae gan neuaddau Uwch Wardeiniaid a Mentoriaid ar alwad i'ch helpu chi. Yn yr Wythnos Groeso, bydd arweinwyr cyfoed myfyrwyr ar gael i'ch cynorthwyo hefyd. Gall y Swyddfa Neuaddau helpu gydag unrhyw broblemau'n ymwneud â'ch taliadau ystafell neu ffioedd. Bydd arweinwyr cyfoed ac aelodau o dîm y Mentoriaid ar gael pan fyddwch yn cyrraedd.
Cysylltwch yn uniongyrchol â'r Swyddfa Neuaddau.
- Ffôn: 44 (0)1248 382667
- E-bost: neuaddau@bangor.ac.uk
RHOWCH EICH RHIF MYNEDIAD PRIFYSGOL BOB AMSER GYDAG UNRHYW YMHOLIAD.
Gwneud Cais Ar-lein am Lety
Arweiniad Cam-wrth-Gam Gwneud Cais am Lety
Os ydych wedi dewis Bangor fel eich Dewis Cadarn, byddwch yn derbyn e-bost gan y Tîm Neuaddau Preswyl gyda linc i ddewis eich ystafell mewn Neuadd. Cymrwch olwg ar ein harweiniad cam-wrth-gam ar sut i wneud cais ar-lein am lety.