Rownd derfynol UBC Global Masters 2019-20
Llongyfarchiadau i Raja Asad a ddaeth yn chweched yn rownd derfynol y gystadleuaeth UBC Global Masters 2019-20 a gynhaliwyd fel digwyddiad rhithwir ddydd Iau 2 Ebrill 2020.
Llwyddodd pob tîm i oresgyn y cyfyngiadau symud byd-eang i wneud y diwrnod yn brofiad dysgu rhagorol a chofiadwy. Mae'r Global Masters yn gystadleuaeth ar sail efelychiad sydd wedi ei chynllunio'n benodol i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr ôl-radd o safon uchel. Mae efelychiadau busnes o'r radd flaenaf yn gofyn bod cystadleuwyr yn rhedeg cyfres o fusnesau sy'n rhoi cyfle iddynt ddatblygu 'meddylfryd entrepreneuraidd' ac yn darparu prawf go iawn o allu pob tîm i yrru perfformiad busnes.
Meddai Dr Siwan Mitchelmore “Rydym yn falch iawn o lwyddiant Raja, rydym wedi ymrwymo i roi cyfle a chefnogaeth i fyfyrwyr wella eu sgiliau cyflogadwyedd. Mae cystadlu yng nghystadleuaeth yr UBC Postgraduate Global Masters yn gyfle i hybu datblygiad personol a phroffesiynol sy'n heriol yn ddeallusol ac yn ymarferol berthnasol, gan arfogi cyfranogwyr â sgiliau cyflogadwyedd hanfodol."
Meddai Raja "Mae fy mhrofiad gyda'r UBC wedi bod yn hynod werthfawr, llwyddais i ddysgu sut i redeg busnes cadarn yn y rownd gyntaf ac yna rhedeg busnes newydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth.Mae wedi bod yn brofiad unigryw iawn ac mae wedi fy ngalluogi i ddatblygu llawer o fy sgiliau personol a phroffesiynol. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy'n ystyried cymryd rhan yn yr UBC Masters i fynd amdani, bydd yn ffordd wych o ddysgu sgiliau gweithio mewn tîm, sgiliau gwneud penderfyniadau a sgiliau cyflwyno."