Cymdeithas Ddysgedig Cymru Cylchlythyr: Mehefin 2020
Y Sector AU yn Wynebu Her y Cyfnod Ôl-Covid: Syr Emyr
Yn ei ei anerchiad olaf i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fel Llywydd y Gymdeithas amlygodd Syr Emyr Jones Parry yr heriau sy’n wynebu prifysgolion Cymru.
- Darllen ei araith
- Gwylio detholiadau allweddol (3:20 munud)
Black Lives Matter: Safbwynt Cymreig
Rydym ni’n ymateb i fudiad Black Lives Matter gyda chyfres o fideos sy’n adfyfyrio ar hanes, gwersi a thystiolaethau gan dynnu ar brofiad a gwybodaeth preswylwyr, arweinwyr sifig a’r byd academaidd yng Nghymru. Bydd y gyfres yn parhau dros yr haf.
Ydy Cymru’n Buddsoddi Digon mewn Ymchwil a Datblygu?
Cyfrannom ni at adroddiad newydd gan CaSE (yr Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg) ar gynyddu effeithiau economaidd lleol buddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Mae’r adroddiad yn nodi y dylai buddsoddi ganolbwyntio ar ragoriaeth sydd eisoes yn bodoli, bod rhaid cefnogi busnesau bach a bod arweinyddiaeth sifig leol yn hanfodol.
Read more: https://mailchi.mp/84f0fa0a6654/lsw-june-2020-newsletter?e=a23e059af6