Mae gwres cefnforol yn drech na gwres yr atmosffêr o ran toddi rhew'r môr yn nwyrain Cefnfor yr Arctig
Mae ymchwil newydd yn dangos bod Cefnfor dwyrain yr Arctig wedi gweld lleihad deublyg a mwy yn nhwf rhew'r môr yn y gaeaf dros y degawd diwethaf a hynny oherwydd dylanwad cynyddol gwres o'r tu mewn i'r cefnfor.
Daeth hynny i'r amlwg mewn astudiaeth ryngwladol, o dan arweiniad Prifysgol Alaska Fairbanks a Sefydliad Meteorolegol y Ffindir ynghyd â Phrifysgol Bangor ac eraill, a ddefnyddiai ddata a gasglwyd gan angorfeydd cefnforol ym Masn Ewrasiaidd Cefnfor yr Arctig o 2003-2018.
Bu'r angorfeydd yn mesur y gwres a ryddhawyd o'r tu mewn i'r cefnfor i ben uchaf y cefnfor a rhew'r môr yn ystod y gaeaf. Yn 2016-2018 amcangyfrifwyd bod fflwcs y gwres yn 10 watt i bob metr sgwâr, sy'n ddigon i doddi 80-90 centimetr o rew'r môr bob blwyddyn. Mae hynny'n fwy na dwbl yr hyn a amcangyfrifid dros y gaeafau blaenorol.
“Yn y gorffennol, wrth bwyso a mesur cyfraniad yr atmosffêr a'r cefnfor i doddiad rhew'r môr ym Masn Ewrasia, yr atmosffêr oedd yn ben,” meddai’r prif awdur Igor Polyakov, eigionegydd yng Nghanolfan Ymchwil Arctig Ryngwladol UAF ac FMI. “Yn awr am y tro cyntaf mae'r cefnfor ar y blaen. Mae'n newid mawr.”
Ychwanegodd yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, cyd-awdur, sylw pellach, “Mae'r canlyniadau newydd yma'n dangos dylanwad cynyddol ac ymledol gwres o ddŵr yr Iwerydd sy'n mynd i mewn i Gefnfor yr Arctig. Maent hefyd yn awgrymu bod mecanwaith adborth newydd yn cyfrannu at gyflymu colli rhew'r môr.”
Fel rheol, dros ran helaeth o'r Arctig mae haen drwchus o ddŵr oer ffres (haloclin) yn ynysu'r gwres sy'n dod o ddŵr yr Iwerydd oddi wrth wyneb y môr, ac oddi wrth rew'r môr.
Mae'r astudiaeth newydd yma'n dangos bod mewnlifiad annormal o ddŵr heli cynnes o Gefnfor yr Iwerydd yn gwanhau ac yn teneuo’r haloclin gan beri mwy o gymysgu. Yn ôl yr astudiaeth newydd, mae dŵr cynnes o'r Iwerydd bellach yn dod yn llawer agosach at yr wyneb.
“Roedd lleoliad arferol ffin uchaf y dŵr hwnnw yn y rhanbarth oddeutu 150 metr, ond nawr mae’r dŵr hwnnw ar 80 metr,” esboniodd Polyakov.
Mae proses aeafol naturiol yn cynyddu'r cymysgu hwnnw. Wrth i ddŵr y môr rewi, caiff yr halen ei fwrw allan o'r rhew i'r dŵr. Mae dŵr heli'n drymach ac mae'n suddo. Heb haloclin cryf, mae'r dŵr heli oer yn cymysgu'n llawer mwy effeithlon â dŵr cynnes, yr Iwerydd a hwnnw'n beisio. Yna caiff y gwres ei hel am i fyny, at waelod rhew'r môr, ac mae hynny'n cyfyngu ar faint o rew a all ffurfio yn ystod y gaeaf.
“Mae'r cymysgu sy'n digwydd yn y gaeaf sy’n gysylltiedig â ffurfio rhew'r môr yn lleihau cyfradd twf rhew'r môr yn ddirfawr,” pwysleisiai Polyakov.
Damcaniaeth Polyakov a'i dîm yw bod gallu'r cefnforoedd i reoli cynnydd y rhew yn y gaeaf yn fecanwaith adborth newydd sy'n ymwneud â cholli rhew'r môr yn yr Arctig. Yn yr adborth hwn, mae dirywiad rhew'r môr a'r gwanhau ar atalfa'r haloclin yn achosi i'r tu mewn i'r cefnfor ryddhau gwres i'r wyneb gan arwain at golli mwy o rew'r môr. Mae'r mecanwaith yn ychwanegu at adborth adnabyddus rhew-albedo - sy'n digwydd pan fydd yr atmosffêr yn toddi rhew'r môr gan greu dŵr agored, sydd yn ei dro'n amsugno mwy o wres, ac yn toddi mwy o rew'r môr.
Pan fydd y ddau fecanwaith adborth yn cyfuno, maent yn cyflymu dirywiad rhew'r môr. Mae adborth gwres y cefnfor yn cyfyngu ar dwf rhew'r môr yn y gaeaf, ac mae'r adborth rhew-albedo'n toddi'r rhew (teneuach) yn rhwydd yn yr haf.
“Wrth iddyn nhw ddechrau gweithio gyda’i gilydd mae’r cyplu rhwng yr atmosffêr, y rhew a'r cefnfor yn mynd yn gryf iawn, yn gryfach o lawer nag y bu,” meddai Polyakov. “Gyda’i gilydd gallant gynnal cyfradd gyflym iawn o doddiad y rhew yn yr Arctig.”
Disgrifiwyd yr ymchwil hwn mewn papur gwyddonol a gyhoeddwyd yn y Journal of Climate.
Cefnogwyd cyfraniad y cyd-awduron Tom Rippeth (Prifysgol Bangor, Y Deyrnas Unedig) a Markus Janout (Sefydliad Alfred Wegener, Yr Almaen) trwy'r Rhaglen Newid Cefnfor yr Arctig (project PEANUTS) a ariennir ar y cyd gan UKRI NERC a'r BMBF.