Prifysgol Bangor yn cael dyfarniad rhagorol yn yr Adolygiad Gwella Ansawdd
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi ei bod wedi cael dyfarniad rhagorol gyda chwe chymeradwyaeth yn dilyn ei Hadolygiad Gwella Ansawdd sefydliadol diweddar.
Cynhelir Adolygiad Gwella Ansawdd oddeutu bob pum mlynedd ym Mhrifysgolion Cymru. Dyma'r broses lle mae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn adolygu darparwyr addysg uwch yn Nghymru fel rhan o'r Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru. Caiff yr adolygiad ei gynnal ar ran Medr.
Ar ôl ystyried yr adroddiad hunan-ddadansoddi a gyflwynodd y Brifysgol, ac ymweliad ym mis Rhagfyr, mae'r Adolygiad Gwella Ansawdd wedi cadarnhau bod Prifysgol Bangor yn darparu addysg o ansawdd uchel, yn cefnogi ei myfyrwyr yn effeithiol ac yn meddu ar systemau cadarn i gynnal a gwella safonau.
Mae’r dyfarniad cadarnhaol hwn yn dangos bod gan y brifysgol drefniadau cadarn i sicrhau safonau academaidd, rheoli ansawdd academaidd a gwella profiad myfyrwyr. Mae'n cadarnhau ymrwymiad y brifysgol i ddarparu addysg o ansawdd uchel yn ogystal â bodloni meincnodau cenedlaethol Ewrop a Chymru ar gyfer safonau academaidd, cefnogaeth i fyfyrwyr, a gwelliant parhaus.
Mae’r Adolygiad Gwella Ansawdd yn tynnu sylw at lwyddiant Prifysgol Bangor yn y gwerthusiad trylwyr hwn, ac yn cadarnhau ei lle fel arweinydd o ran darparu addysg ragorol a phrofiad eithriadol i fyfyrwyr, gyda gwelliant wrth ei gwraidd.
Nododd yr Adolygiad Gwella Ansawdd chwe chymeradwyaeth i Brifysgol Bangor, sef:
- Partneriaeth â Myfyrwyr: Y berthynas gref rhwng y Brifysgol a’i myfyrwyr a’r ffaith ei bod yn rhoi sylwadau ac adborth y myfyrwyr yn flaenllaw mewn mentrau/prosiectau i wella profiad y myfyrwyr.
- Y Gymraeg a Dwyieithrwydd: Y graddau y mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd wedi eu hymwreiddio’n ddwfn yn niwylliant y Brifysgol, a hynny’n amlwg er budd y staff a’r myfyrwyr i gyd mewn perthynas â chyfleoedd dysgu ac ymdeimlad o berthyn.
- Cefnogi Myfyrwyr: Yr amrediad eang ac ymatebol o gymorth academaidd a bugeiliol sydd ar gael i’r myfyrwyr i helpu i ateb eu hanghenion drwy gydol eu hamser yn y Brifysgol.
- Datblygu Staff: Y gwerth sylweddol a roddir i ddatblygiad staff, ac i ba raddau y mae hyn wedi ei ymwreiddio’n llawn ar draws y Brifysgol gyfan, ac mae hyn o fudd sylweddol i’r staff a’r myfyrwyr yn eu dysgu.
- Fframwaith Asesu Cywerthedd: Gweithrediad y Fframwaith Cywerthedd Asesiadau i sicrhau bod arferion asesu’n deg ac yn gyson, o fewn a rhwng meysydd astudio.
- Gwelliannau’n Seiliedig ar Ddata: Y ffordd systematig o gyfuno a defnyddio data i hysbysu prosesau sicrhau ansawdd, i hwyluso cymorth wedi ei deilwra i fyfyrwyr ac i danategu gwelliannau penodol.
Meddai’r Athro Edmund Burke, yr Is-ganghellor: “Mae'r canlyniad rhagorol hwn yn dangos ymrwymiad diwyro Prifysgol Bangor i ragoriaeth academaidd a llwyddiant myfyrwyr. Mae’n cadarnhau bod ein prosesau dysgu, cefnogi myfyrwyr a sicrhau ansawdd yn bodloni safonau cenedlaethol a safonau Ewropeaidd, ac mae’r chwe chymeradwyaeth yn dangos bod Prifysgol Bangor yn gwneud llawer mwy na hynny ac yn cynnig darpariaeth ragorol. Rydym yn falch o weld ein hymrwymiad i welliant parhaus a phrofiad myfyrwyr yn cael ei gydnabod mewn ffordd mor arwyddocaol trwy ganlyniad yr Adolygiad Gwella Ansawdd hwn.”
Meddai’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), yr Athro Nichola Callow: “Prifysgol Bangor yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei hasesu o dan fethodoleg newydd yr Adolygiad Gwella Ansawdd ac rydym yn falch dros ben ein bod wedi cael cymeradwyaeth mewn meysydd allweddol. Mae canlyniad yr adolygiad hwn yn cadarnhau ein hansawdd academaidd, ac mae'n dyst i waith diflino’r staff dros y blynyddoedd i gynnal safonau mor uchel. Hoffwn ddiolch i staff am yr ymdrechion hyn, ac i'r holl staff, Undeb y Myfyrwyr a myfyrwyr a oedd yn rhan o'n cyflwyniad Adolygiad Gwella Ansawdd a'r ymweliad ym mis Rhagfyr.”
Mae'r dyfarniad cadarnhaol hwn yn atgyfnerthu enw da Prifysgol Bangor am ragoriaeth a'i hymrwymiad parhaus i ddarparu amgylchedd gwerth chweil a chefnogol i bob myfyriwr.