Yn 2019, lansiodd Sefydliad Iechyd y Byd ei strategaeth i ymdrin â brathiad neidr, clefyd a allai beryglu bywyd ac a achosir gan docsinau mewn brathiad neidr wenwynig. Mae brathiadau nadroedd yn achosi hyd at 138,000 o farwolaethau ac yn gadael 400,000 o bobl eraill ag anableddau parhaol pob blwyddyn.
Mae Dr Anita Malhotra a Dr Wolfgang Wüster o Ysgol Gwyddorau Naturiol y brifysgol yn ymuno â'r rhestr o arbenigwyr sydd newydd eu cyhoeddi a fydd yn helpu Sefydliad Iechyd y Byd i fynd i'r afael â'r heriau o weithredu'r strategaeth hon.
Tra bod Dr Malhotra a Dr Wüster wedi bod yn gweithio ar nadroedd gwenwynig ledled y byd ers degawdau, yn fwy diweddar maent wedi canolbwyntio eu hymdrechion yn India, lle mae 50% o'r marwolaethau byd-eang o frathiadau nadroedd yn digwydd.
Meddai Dr Anita Malhotra:
“Gall gwneud ymchwil fod yn waith caled iawn, mae'n cynnwys oriau hir iawn, a gwaith maes eithaf heriol, felly mae'n braf iawn bod ein hymdrechion yn cael eu cydnabod.”
Meddai Dr Wolfgang Wüster:
“Mae cynhyrchu gwybodaeth newydd yn rhoi llawer o foddhad i rywun, ond mae ei defnyddio mewn ffordd y gallai gyfrannu at achub bywydau yn gwneud y cyfan gymaint yn fwy gwerth chweil.”
Mae eu harbenigedd hefyd o fudd uniongyrchol i fyfyrwyr sy'n astudio Sŵoleg gyda Herpetoleg ym Mangor, yr unig radd o'r fath yn y Deyrnas Unedig, gyda chyfle i ddysgu am sut i astudio nadroedd a'u gwenwyn a chymryd rhan mewn hyfforddiant labordy a gwaith maes.
Mae rhagor o wybodaeth am eu gwaith yn India ar gael yn bites.bangor.ac.uk.
Cyswllt i drafodaeth ddiweddar Dr Malhotra am frathiadau nadroedd:
Dau arbenigwr nadroedd gwenwynig o Brifysgol Bangor yn ymuno â phanel Sefydliad Iechyd y Byd
Mae dau academydd rhyngwladol o Brifysgol Bangor wedi eu penodi i banel o arbenigwyr Sefydliad Iechyd y Byd.