Mae'r model yn defnyddio dull dadansoddi adnabod patrymau i nodi'r ffactorau cymhleth a rhyng-gysylltiedig a all arwain at anafiadau megis troi ffêr, rhwyg neu ysigiad i’r gewynnau, ac achosion mwy difrifol o anafiadau straen i’r cyhyrau. Anafiadau i’r coesau yw'r math mwyaf cyffredin yn rygbi'r undeb, gan gyfrif am tua hanner y dyddiau a gollir oherwydd anafiadau yn y gêm ryngwladol.
Bu ymchwilwyr o Gyfnewidfa Gwybodaeth Rygbi Prifysgol Bangor yn dilyn 36 o chwaraewyr rygbi'r undeb lled-broffesiynol dros ddau dymor, gan ddefnyddio data ar lwyth hyfforddi, profi perfformiad, mesurau goddrychol, sgrinio cyhyrysgerbydol ac anafiadau blaenorol. Casglwyd mwy na 1700 o bwyntiau data ar gyfer pob chwaraewr fesul tymor chwarae.
Dros y ddau dymor, cafodd 25 o'r chwaraewyr anafiadau digyswllt i'w coesau, a achoswyd amlaf gan redeg. Yr anaf mwyaf cyffredin oedd troi ffêr.
Gyda’r data hwn, canolbwyntiodd y tîm ar ffactorau sydd eisoes yn gysylltiedig ag anafiadau penodol, gan greu model a allai asesu'r cydadwaith rhyngddynt i ragfynegi'r risg ar gyfer pob chwaraewr gyda chywirdeb hyd at 75%. Mae'r model hefyd yn gosod trothwy i bob ffactor, lle roedd y chwaraewr yn wynebu risg uwch o anaf - gan ei wneud yn adnodd a allai fod yn ddefnyddiol i hyfforddwyr perfformio yn y gamp.
Dywedodd Dr Julian Owen, uwch ddarlithydd mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor: “Mae dulliau ystadegol traddodiadol o asesu risg anafiadau yn tueddu i dybio bod cysylltiad llinol rhwng yr anaf a nifer fach o ffactorau risg unigol. Er enghraifft, bod gwendid mewn grŵp penodol o gyhyrau’n rhagfynegydd o anaf penodol. Mae ein model ni’n llawer mwy cynnil. Gallai’r trothwy ar gyfer gwendid yn y grŵp cyhyrau hwnnw fod yn wahanol yn dibynnu ar oedran y chwaraewr, màs y corff a’u llwyth hyfforddi dros yr ychydig wythnosau blaenorol.”
Trwy ragfynegi risg yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gallai'r model ganiatáu i hyfforddwyr addasu rhai agweddau ar hyfforddiant chwaraewr i sicrhau bod eu risg yn cael ei leihau a'u bod yn gallu parhau i chwarae a hyfforddi.
Mae data’r model yn seiliedig ar asesiadau y mae chwaraewyr yn eu cael yn rheolaidd ar ddechrau'r tymor a chyn y rhan fwyaf o sesiynau hyfforddi. Mae hyn yn cynnwys profion ffitrwydd aerobig, cyflymder sbrintio, cryfder, profion sgrinio arferol megis hyblygrwydd y ffêr, cryfder y llinynnau gar a’r cyhyrau atynnu, a mesurau hunan-adrodd megis blinder neu boen cyhyrau.
Un o elfennau allweddol y model yw ei fod yn cynnwys newidiadau yn y mesuriadau hyn dros y tymor a'u cysylltu â newidiadau yn y llwyth hyfforddi.
Roedd rhai o’r canfyddiadau’n syndod – megis bod blaenwyr mewn mwy o berygl o anafiadau digyswllt difrifol i’r coesau o’u cymharu â chefnwyr, yn enwedig os oedd eu hamseroedd sbrintio’n arafach a bod ganddynt lai o gryfder ar draws marcwyr sgrinio cyhyrysgerbydol y coesau. Roedd hanes chwaraewr o gyfergyd hefyd yn cynyddu eu risg o anaf digyswllt dilynol. Fodd bynnag, mae'r ymchwilwyr yn rhybuddio na ellir cyffredinoli canfyddiadau o'r fath ar draws y gamp.
Dywedodd Dr Seren Evans, sy’n gydymaith ymchwil ym maes monitro anafiadau rygbi’r undeb ym Mhrifysgol Bangor, ac a weithiodd ar y project ar gyfer ei PhD: “Mae allbynnau’r model hwn yn seiliedig ar y 36 chwaraewr hynny, felly byddai angen set ddata llawer mwy arnoch er mwyn i’r canfyddiadau fod yn berthnasol yn ehangach. Mae hyn yn golygu bod y model yn benodol iawn wrth asesu risg grŵp penodol o chwaraewyr a’r math penodol o hyfforddiant a champ y maent yn rhan ohonynt.”
Yn ôl Dr Owen, gallai'r dull hwn gael ei ddyblygu’n hawdd ar draws chwaraeon eraill hefyd, yn enwedig chwaraeon tîm.
“Mae’r ymchwil hwn wedi dangos bod dull adnabod patrymau’n gallu gweithio,” meddai. “Lle mae gan glybiau ddata hanesyddol ynghylch eu chwaraewyr o dymhorau blaenorol, byddai’n bosibl datblygu model yn gyflym iawn i’w addasu i’r tîm hwnnw – a rhagfynegi risg anafiadau a darparu mewnwelediad am grŵp penodol o chwaraewyr.”
Ariannwyd yr ymchwil drwy Gynllun Ysgoloriaeth PhD y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’i gyhoeddi yn PLoSOne