Bydd y feiolinydd Mary Hofman a’r pianydd Richard Ormrod yn perfformio gweithiau gan bum cyfansoddwraig o Brydain yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor ar nos Lun 5 Medi.
Mae’r cyngerdd yn rhan o Weithdy Ailfeddwl Gwaith Merched mewn Cerddoriaeth (Rethinking Women’s Work in Music Workshop) yr Adran Gerdd (5-6 Medi), ac mae’n nodi lansiad Unbroken Threads, sef cryno ddisg o recordiau Tŷ Cerdd sydd yn cynnwys yr holl ddarnau a fydd yn cael eu perfformio gan y ddeuawd yn ystod eu perfformiad.
Cafodd y tri darn o waith mwyaf diweddar - gan y cyfansoddwyr o Gymru, Rhian Samuel, Hilary Tann a Sarah Lianne Lewis - eu comisiynu gan glwb gerddoriaeth y Rhyl Music Club ar gyfer achlysur i nodi 250 mlwyddiant genedigaeth Beethoven, gan ymateb yn uniongyrchol i sonatas Beethoven. Cawsant eu perfformio mewn clybiau cerddoriaeth o amgylch Cymru gan y ddeuawd, ar y cyd â sonatas Beethoven yn eu cyfanrwydd. Daw’r gweithiau newydd ynghyd â Dreamtides llesmeiriol y gyfansoddwraig Steph Power, a gorchest Eleanor Alberga The Wild Blue Yonder, i gwblhau’r casgliad swynol.
Dechreuwyd ar y gwaith o recordio’r albwm yn stiwdios Tŷ Cerdd yn gynnar yn 2020, cyn i’r pandemig ein taro, ac roedd rhaid disgwyl nes Gwanwyn 2021 ar gyfer y sesiwn olaf.
Meddai Mary Hofman, “Fel recordiad a gafodd ei greu’r naill ochr i’r pandemig byd-eang, mae’r cysyniad o edefyn di-dor, y parhad drwy erwindeb y cyfnod hwn o ddwy flynedd yn teimlo’n addas. Geiriau a ddefnyddiodd Beethoven yn Nhestament Heiligenstadt oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y teitl - ac maent yn ffordd o gyplysu’r gweithiau newydd gyda’r comisiynau a ysbrydolwyd gan Beethoven.”
Cynhelir y cyngerdd yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor ar nos Lun, 5 Medi am 19:30. Cyn y Cyngerdd am 18:30 bydd Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd a’r cyfansoddwyr Rhian Samuel, Hilary Tann, Sarah Lianne Lewis a Steph Power yn ymuno â Dr Rhiannon Mathias am sgwrs cyn y cyngerdd.
Dywedodd Dr Mathias, “Bwriad y Gweithdy yw trafod a dathlu llwyddiannau merched mewn cerddoriaeth hanesyddol a cherddoriaeth gyfoes, ac mae’r cyngerdd hwn yn cynnwys cyfansoddwyr sy’n arwain y maes. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at siarad â nhw am eu darnau, a bydd yn hynod ddiddorol cael eu barn am weithio yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol heddiw.”
Mae tocynnau ar gyfer y sgwrs (18:30) a’r cyngerdd (19:30) ar gael o Swyddfa Docynnau Pontio.
Mae’r gryno ddisg Unbroken Threads ar gael i’w rhag-archebu a bydd ar gael i’w phrynu ar wefan Tŷ Cerdd ac i’w ffrydio oddi ar y prif blatfformau o 9 Medi.