Gyda'r tristwch mwyaf, mae Prifysgol Bangor yn nodi marwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II.
Fel cymuned Prifysgol mae’r Teulu Brenhinol yn ein meddyliau a’n gweddïau.
Dyma’r teyrnasiad hwyaf erioed gan Frenin neu Frenhines ym Mhrydain, a gwnaeth y Frenhines gyfraniad na fu ei debyg i fywyd y genedl. Ar Ebrill 28 1949, dyfarnwyd doethuriaeth er anrhydedd mewn Cerddoriaeth i'r Frenhines Elizabeth, neu i’r Dywysoges Elizabeth fel yr oedd ar y pryd, ym Mhrifysgol Bangor gan Ei Fawrhydi, Y Dug Caeredin, a oedd bryd hynny’n Ganghellor Prifysgol Cymru. Y tro diwethaf iddi ymweld â’r Brifysgol oedd ym mis Ebrill 2010.
Yn unol â'r protocol cenedlaethol, bydd y Brifysgol yn chwifio baner ar hanner mast.