Prifysgol Bangor yn penodi Prif Swyddog Cyllid newydd
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod Martyn Riddleston wedi ei benodi yn Brif Swyddog Cyllid newydd ac yn aelod o’r Pwyllgor Gweithredu.
Bydd Martyn yn dechrau yn y brifysgol ddydd Mawrth 1 Tachwedd, gan ymuno â ni o Brifysgol Caerlŷr lle bu’n Gyfarwyddwr Cyllid ac yn Brif Swyddog Cyllid am wyth mlynedd cyn cymryd portffolio ehangach fel Prif Swyddog Gweithredu yn 2020.
Bydd y swydd strategol allweddol hon yn gyfrifol am bob agwedd ar gynllunio a rheolaeth ariannol yn y brifysgol, gan chwarae rhan ganolog, fel aelod o’r Pwyllgor Gweithredu, yn natblygiad strategaeth y brifysgol dros y blynyddoedd allweddol nesaf.
Dywedodd Martyn: “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â thîm Prifysgol Bangor ar adeg mor gyffrous. Mae hanes y brifysgol yn creu argraff ac mae wedi cael sawl llwyddiant yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen at gael chwarae fy rhan o fewn y brifysgol ac yn y gymuned wrth i ni geisio cyflawni’r strategaeth a gwireddu ein huchelgais ar gyfer y dyfodol.”
Cyn dechrau ar yrfa sydd wedi para 20 mlynedd ym maes addysg uwch, bu Martyn yn gweithio i’r cwmni gwasanaethau proffesiynol ac ariannol rhyngwladol, KPMG.
Bydd cyfnod o drosglwyddo rhyngddo efo a Robert Eastwood sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Cyllid Dros Dro ym Mangor ers mis Mawrth 2020.
Mewn sylw ar benodiad Martyn, dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Martyn i’r rôl allweddol hon ym Mangor. Bydd ei arbenigedd yn ein helpu i sicrhau cynaliadwyedd ariannol mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn heriol i’r sector addysg uwch.
“Ar ran y brifysgol a’n tîm cyllid hoffwn ddiolch i Rob am ei arweiniad a’i arbenigedd ers dechrau’r pandemig.”