Bangor yn Dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd 2023
Ddydd Sadwrn, 21 Ionawr, bu Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn dathlu Blwyddyn Newydd y Gwningen Tsieineaidd yn g nghanolfan Pontio gyda Gala Tsieineaidd, perfformiadau cerddorol a pherfformiadau tai chi, a gweithdai celf a chrefft Tsieineaidd traddodiadol.
Roeddem yn falch o groesawu tîm proffesiynol o artistiaid Tsieineaidd o Sefydliad Confucius Goldsmiths yn Llundain a swynodd cynulleidfa o 300 o bobl gyda repertoire ysblennydd o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd.
Roedd y dawnswyr yn neidio chwe throedfedd oddi ar y llwyfan gyda'r fath osgeiddrwydd a glanio heb unrhyw sŵn. Bendigedig!’ Anthony Brooks
Denodd y gweithdai caligraffi a chlymau Tsieineaidd galw heibio lawer o deuluoedd i fwynhau ymarfer celf a chrefft traddodiadol.
Ymhlith y gwesteion arbennig ar y diwrnod roedd Maer Bangor, y Cynghorydd Gwynant Roberts, yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor, a'r Athro Ruth McElroy, Pennaeth yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau.
Meddai’r Cynghorydd Gwynant Roberts:
'Roedd yn fraint cael gwahoddiad i ddathlu Blwyddyn Tsieineaidd y Gwningen gyda Sefydliad Confucius mewn gala yng nghanolfan Pontio a chael gweld a chlywed dawns a chaneuon yn arddangos diwylliant traddodiadol Tsieineaidd. Profiad gwirioneddol cyfareddol ac anrhydedd i’w wylio. Mae Sefydliad Confucius yn enghraifft, nad yw'n cael ei gwerthfawrogi'n llawn, o rywbeth sy’n gwneud Bangor yn lleoliad o fri rhyngwladol. Llongyfarchiadau!’
Da iawn i'r holl artistiaid am eu perfformiadau arbennig!
Blwyddyn Newydd Dda! 新年快乐!