Prifysgol Bangor yn cyrraedd rhestr fer Prifysgol y Flwyddyn a phedwar categori arall yng Ngwobrau WhatUni?
Yr wythnos hon, cyhoeddwyd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni? (WUSCAs), ac mae Prifysgol Bangor wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pum categori eleni, gan gynnwys Prifysgol y Flwyddyn, darlithwyr ac ansawdd addysgu, Undeb y Myfyrwyr, llety ac ôl-raddedig.
Y WUSCAs yw’r unig ddyfarniadau blynyddol sy’n seiliedig ar farn myfyrwyr sy’n astudio yn y Deyrnas Unedig yn unig ac mae’n cynnig mynediad at ddata gonest a diduedd er mwyn i fyfyrwyr wneud y dewisiadau cywir am eu dyfodol.
Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg y brifysgol, “Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o gael ei henwebu ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn ac ystod o gategorïau eraill yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni? eleni. Rydym yn Brifysgol sy'n credu mewn darparu cefnogaeth i bob myfyriwr wneud y mwyaf o gyfleoedd, cael y cyfle i ddatblygu, a gwireddu eu huchelgeisiau - gyda myfyrwyr wrth galon ein penderfyniadau. Mae cymuned gyfan Prifysgol Bangor yn falch iawn bod ein myfyrwyr wedi dangos eu cefnogaeth a’u gwerthfawrogiad drwy enwebu eu Prifysgol ar gyfer y gwobrau yma.”
Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol IDP Connect: “Mae gwobrau Whatuni yn dathlu gwytnwch ac arloesedd o fewn addysg uwch, yn ogystal â hyrwyddo llais y myfyriwr i ysgogi profiadau a chanlyniadau gwell i fyfyrwyr. Gyda rhai o’r sgorau uchaf yr ydym erioed wedi’u casglu, mae sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig wedi tynnu sylw at waith gwych yn y sector, wedi ennill cefnogaeth eu myfyrwyr ac wedi sicrhau eu henwebiadau yn y gystadleuaeth eleni. Gyda’r heriau costau byw parhaus, y ddadl barhaus ynghylch niferoedd myfyrwyr rhyngwladol a Phrifysgolion yn meddwl mwy a mwy am yr hyn y gallant ei wneud i helpu eu cymunedau lleol, rydym yn falch o ganolbwyntio ar yr holl dda y mae Prifysgolion yn ei wneud a dathlu eu llwyddiannau.”