Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol UKRI: Agored i ymgeiswyr allanol
Cefndir yr alwad
Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr UKRI Rownd 8 o Gymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol, gyda 4 Gorffennaf 2023 yn ddyddiad cau.
Mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol yn ceisio cefnogi ymchwil neu arloesi uchelgeisiol ar draws cylch gwaith UKRI. Maent yn ddyfarniadau personol i gefnogi cymrodyr i ddatblygu fel arweinwyr dylanwadol sy’n cael effaith mewn ymchwil neu arloesi sydd naill ai:
- eisiau sefydlu neu drosglwyddo i annibyniaeth
- yn datblygu eu cynlluniau gwreiddiol ac uchelgeisiol eu hunain mewn sefyllfa fasnachol.
Nid oes isafswm nac uchafswm gwerth dyfarniad, a gall y project bara hyd at bedair blynedd, gyda'r opsiwn i wneud cais i adnewyddu am dair blynedd arall. Nod y cynllun yw datblygu talent ymchwil ac arloesi yn y Deyrnas Unedig, dal gafael ar hynny, ei ddenu, a’i gynnal, trwy ariannu unigolion a all ddangos y potensial i ddod yn academyddion blaenllaw yn eu maes.
Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol ym Mhrifysgol Bangor
Mae cyfyngiad sefydliadol o 2 gais; felly, bydd y tîm Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig (IRIS) yn cynnal proses ddewis fewnol gyda'r dyddiad cau cyntaf 17 Ebrill (ymgeiswyr i gyflwyno CV i asesu cymhwystra).
Mae Bangor yn croesawu ac yn annog ymgeiswyr allanol i wneud cais am Gymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol i'w chynnal ym Mangor, lle byddwn yn eich cefnogi chi i sefydlu a datblygu eich gyrfa. Dylai darpar ymgeiswyr allanol sy'n bodloni meini prawf cymhwystra y cynllun geisio cefnogaeth ysgol academaidd berthnasol yn y lle cyntaf. Fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu ag aelodau priodol o staff cyn gynted â phosibl i drafod yn anffurfiol y project arfaethedig a'r cyfleoedd ym Mangor.
Rhaid i ymgeiswyr mewnol ac allanol ddilyn y broses ddewis fewnol a amlinellir isod. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch ag IRIS: k.high@bangor.ac.uk
Dydd Llun 17 Ebrill |
Dyddiad cau cyflwyno CVs i Eleri Jones (eleri.wyn.jones@bangor.ac.uk fel y gall y panel asesu addasrwydd/cymhwystra ar gyfer y cynllun. Gall ymgeiswyr mewnol greu CV o'u proffil PURE os yw'n gyfredol. |
Dydd Llun 24 Ebrill |
Bydd ymgeiswyr y mae eu CV yn cyd-fynd â gofynion y cynllun yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais mewnol a dod i’r hyfforddiant perthnasol. Bydd ymgeiswyr sy'n aflwyddiannus yn cael cynnig cyfarfodydd dilynol i chwilio am ffynonellau cyllid eraill posib. |
Dydd Gwener 28 Ebrill |
Dyddiad cau i gadarnhau’r bwriad i gyflwyno (trwy e-bost) gydag Eleri Jones (eleri.wyn.jones@bangor.ac.uk) er mwyn galluogi blaengynllunio adolygiadau a mentora cefnogol. Mae'r ebost hon yn cynnwys i) teitl y project, ii) enwau'r prif ymchwilwyr iii) crynodeb byr o'r project arfaethedig. Ar y cam hwn, caiff cyfarwyddwr ymchwil yr ysgol/coleg ei hysbysu a bydd mentora yn cael ei roi ar waith er mwyn sicrhau bod gan ymgeiswyr y siawns orau o lwyddo. |
Dydd Llun 8 Mai |
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion mewnol ar gyfer Bangor adolygiad (fel atodiadau e-bost wedi eu hanfon at eleri.wyn.jones@bangor.ac.uk) yw. |
wythnos yn dechrau 22 Mai |
Cyflwyniadau i ddilyn gan cyfarfod o banel adolygu Bangor i ddewis tri cynnig i’w cyflwyno i UKRI (dim ond dau fydd wedyn yn mynd ymlaen i’r cyflwyniad llawn). |
Dydd Llun 5 Mehefin |
Dyddiad cau cyflwyno cynigion mewnol ail gam ar gyfer adolygiad Bangor (fel atodiadau e-bost at eleri.wyn.jones@bangor.ac.uk). |
wythnos yn dechrau 12 Mehefin |
Dewis dau gais i'w cyflwyno'n llawn |
Dydd Mawrth 27 Gorffennaf |
Dyddiad cau Bangor i ymgeiswyr gyflwyno holl gydrannau'r cais ar ffurflenni Je-S a FEC, i'w gwirio'n derfynol gan y Gwasanaeth Effaith ac Ymchwil Integredig. |
Dydd Mawrth 4 Gorffennaf (erbyn 4pm) |
Dylid cyflwyno ceisiadau llawn i UKRI trwy Je-S. |