Mae M-SParc, Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, sy’n eiddo i Brifysgol Bangor, a Chanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru (AMRC), a reolir gan Brifysgol Sheffield, wedi llofnodi cytundeb heddiw i ganiatáu iddyn nhw weithio mewn partneriaeth. Bydd hyn yn galluogi cydweithio ar bob lefel rhwng y ddau sefydliad, gan sicrhau bod cwmnïau’n cael mynediad ehangach at gefnogaeth, sgiliau, arbenigedd a chyfleusterau a all ddatblygu eu busnes.
M-SParc yw Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru, ac mae’n canolbwyntio ar sectorau gwyddorau bywyd, digidol, carbon isel, ynni a'r amgylchedd. Mae AMRC Cymru, sy’n aelod o’r Catapwlt Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel (HVM), yn ganolfan o’r radd flaenaf, a gafodd ei hariannu’n llawn gydag £20m gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r tîm yn AMRC Cymru yn helpu i feithrin cydweithrediadau a phartneriaethau rhwng diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth, i gyflawni ymchwil, datblygiad ac arloesedd blaengar ar gyfer cynhyrchion a phrosesau gwell; ac yn helpu i yrru technolegau gweithgynhyrchu cynaliadwy yn eu blaen ar gyfer sero net, gan greu’r newidiadau sylweddol sydd eu hangen yn y cyfnod pontio carbon isel.
Gan gydweithio ar brosiectau, gweithio i sicrhau cyllid ar y cyd, a chanolbwyntio ar allgymorth a sgiliau, bydd y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn galluogi tenantiaid M-SParc a’r ecosystem ehangach i elwa o arbenigedd y peirianwyr a’r cysylltiadau gwerthfawr y mae’r AMRC yn eu darparu.
Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, "Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi’r cydweithio newydd rhwng M-SParc ac AMRC Cymru, sy’n garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion i sbarduno twf economaidd ac arallgyfeirio yng Ngogledd Cymru. Drwy ddod â dau sefydliad arloesi cadarn at ei gilydd, rydyn ni’n hyderus y bydd y bartneriaeth hon yn datgloi cyfleoedd newydd ac yn cyflymu cynnydd mewn meysydd allweddol fel gweithgynhyrchu uwch a pheirianneg uwch-dechnoleg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gydag AMRC i ddefnyddio ein harbenigedd, ein hadnoddau a’n rhwydweithiau ar y cyd, ac i greu effaith barhaol ar gyfer ein rhanbarth a thu hwnt.
“Gall y gwaith y mae’r ddau sefydliad yn ei wneud i wella sgiliau’r cenedlaethau iau, o weithdai i gyfleoedd hyfforddi, fynd ymhellach erbyn hyn, gan bontio dwy ochr gogledd Cymru a sicrhau bod pobl ifanc leol yn barod ac yn gallu manteisio ar yrfaoedd sydd wedi’u creu’n lleol ym maes gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg."
Bydd tenantiaid M-SParc yn elwa ar fynediad at gyfleusterau gweithgynhyrchu o safon uchel, a rhannu gwybodaeth rhwng y ddau safle. Mae technoleg amaethyddol yn faes allweddol ar gyfer cydweithio rhwng y ddau sefydliad, gydag M-SParc yn gweithredu grŵp clwstwr technoleg agritech.Cymru ac AMRC Cymru yn datblygu gwybodaeth a galluoedd arbenigol yn y maes. Bydd digwyddiadau a chysylltiadau clwstwr hefyd yn rhan allweddol o’r cytundeb, gan ehangu cyrhaeddiad y clystyrau ac arwain at ragor o gydweithio a chyfleoedd.
Dywedodd Andrew Martin, pennaeth bwyd a diod AMRC Cymru, "Rydyn ni’n credu bod y bartneriaeth strategol hon yn hanfodol i sbarduno twf economaidd uwch ar draws Gogledd Cymru, ac i sicrhau bod gwybodaeth a sgiliau gweithgynhyrchu o werth uchel yn cael eu darparu i fusnesau strategol allweddol ar draws pob rhanbarth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y cydweithio hwn yn dechrau ac yn rhoi mwy fyth o bosibiliadau i denantiaid.”
I ddarllen mwy am y ddau gwmni sy’n ymwneud â’r prosiect, mae rhagor o wybodaeth am M-SParc ar gael yma: Cartref - M-SParc a gallwch ddarllen mwy am AMRC Cymru yma: amrc.co.uk/cymru.