Podlediad yn rhannu profiadau bywyd y tu hwnt i ddiagnosis o ddementia
Mae podlediad newydd yn y gyfres Am Iechyd gan Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol Bangor ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhannu profiadau o fywyd tu hwnt i ddiagnosis o ddementia o safbwyntiau gwahanol.
Bydd y podlediad yn cael ei lansio’r swyddogol ar ddydd Mercher, 28 o Fehefin mewn digwyddiad codi ymwybyddiaeth o ddementia yn Galeri, Caernarfon.
“Y gobaith yw y bydd y podlediad yn agoriad llygad i bawb, ac yn annog rhagor o bobl i fod yn fwy agored am ddementia a sut i gael y gefnogaeth sydd mor bwysig,” meddai Dr. Catrin Hedd Jones, sy’n ddarlithydd ar gwrs meistr mewn Dementia ym Mhrifysgol Bangor.
Aeth Glenda Roberts o ardal Pwllheli at y meddyg teulu yn 56 wedi i'w theulu sylweddoli fod rhywbeth o’i le o ran ei chof a nifer o bethau eraill, gan gynnwys y ffordd yr oedd hi’n siarad. Fel rhan o’r podlediad, mae’n dweud,
“Pam mae rhywun yn cael y diagnosis o ddementia, mae’n goblyn o sioc, yn enwedig os ydach chi’n ifanc fel oeddwn i.
“Mae o’n lot mwy na anghofio lle da chi wedi rhoi eich pwrs. Mae’ch synhwyrau chi i gyd yn newid, a dydi rhywun ddim yn gwybod pam, os nad ydy rhywun yn deud wrtha chi fod hynny’n bosib o ddigwydd.
“Os fyswn i eisiau croesi’r lôn, fedra i ddim deud os ydi car yn dod yn agos ata i, pa mor gyflym mae o’n mynd, ydi o’n mynd i stopio i adael i mi groesi’r lôn. Mae’r holl ganolbwyntio’n gallu blino rhywun yn ofnadwy.”
Mae cael y gefnogaeth iawn gan gynnwys gofalwyr proffesiynol wedi bod yn hollbwysig i Glenda fedru mynd allan a mwynhau bywyd wrth fyw efo’r cyflwr, ac erbyn hyn y mae hi’n cydweithio ag ysgolion a’r Brifysgol ym Mangor i sôn am ei phrofiad fel person sy’n byw gyda dementia, ac yn helpu i ddatblygu adnoddau i roi gwybodaeth ddefnyddiol i unigolion wedi iddynt dderbyn deiagnosis.
Mae mam Rhian Green hefyd yn byw gyda dementia ac mae’r teulu, yn enwedig ei thad, yn cefnogi ei mam i fyw gyda’r cyflwr. Yn y podlediad, mae hi’n ymhelaethu ar brofiadau’r teulu, gan ddweud:
“Da ni’n trio fel teulu, gyda chymorth ffrindiau a gwasanaethau, gwneud yn siŵr ei bod hi’n cael bywyd cystal â phosib - y nod pennaf yw gwneud yn siŵr ei bod hi’n hapus, mor aml ag sy’n gorfforol bosib.”
Wedi profi dementia ei mam, mae Emma Quaeck bellach yn arwain cynllun Dementia Cyngor Gwynedd, gan gynnig gweithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl gyda dementia, ac yn y podlediad mae hi’n ymhelaethu ar y ddarpariaeth sydd ar gael.
“Dros y saith, wyth mlynedd ‘da ni wedi bod yn rhedeg y cynllun yma, dwi wedi dysgu cymaint am ddementia trwy fod efo pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia - yr unigolion ond hefyd y bobl sy’n eu cefnogi. Mae hynny wedi bod mor werthfawr, ac wedi arwain ni at gynnal y rhaglen Dementia Actif sy’n trio helpu pobl i fyw mor dda a fedra nhw efo dementia, yn eu cymunedau.”
Y neges fwyaf a ddaw o’r drafodaeth ar y podlediad yw’r angen i geisio di-stigmateiddio’r cyflwr a siarad yn agored am sut i gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia.
Meddai Rhian Green, “Mae’n andros o beth anodd cydnabod a dygymod â’r posibilrwydd bod bywyd yn mynd i newid yn sgil deiagnosis o ddementia, ond o fod yn agored mae’n helpu di-stigmateddio’r holl beth ac yn ei wneud o’n fwy ‘normal’. Mae gan bawb efo dementia hawl i gael eu gweld, hawl i gael eu clywed a hawl i gael eiriolaeth a sefyll ochr-yn-ochr â phawb arall mewn cymdeithas a chael boddhad a phleser o fywyd.”
Un ffordd mae Glenda yn gwneud hyn yw cynnig cyngor am sut i wella mannau cyhoeddus a siopau a’u gwneud yn fwy dementia-gyfeillgar.
“Ma na ffordd rownd rhan fwyaf o bethau,” meddai. “Unwaith ‘da chi’n agor un drws, ma ‘na ddrws arall yn agor. Ma ‘na rwystra’ a gwaith i’w wneud, ond peidiwch byth â meddwl eich bod chi ar ben eich hun.”
Mae llawlyfr am beth gall wneud bywyd ychydig yn haws ar ol derbyn diagnosis o dementia ar gael yma https://dsdc.bangor.ac.uk/products-created.php.cy