Arddangos Prifysgol Bangor yn y Brifwyl
Bydd Prifysgol Bangor yn arddangos y cyfan sydd ganddi i’w gynnig i ymwelwyr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, Gwynedd, rhwng 05-12 Awst 2023.
Mae'r stondin eleni yn gartref i Theatr Bangor, man lletygarwch, lle pwrpasol i UMCB ac arddangosfa gan Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn dangos yr astudiaeth i’r llen iâ Brydeinig-Wyddelig ac yn dathlu llong ymchwil y Brifysgol, y Prince Madog.
Theatr Bangor
Bydd amserlen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol yr wythnos gyda llawer o weithgareddau cyffrous o bob rhan o’r brifysgol, gan gynnwys podlediadau byw, trafodaethau panel, sgyrsiau a cherddoriaeth. Mae digwyddiadau traddodiadol y Brifysgol yn eu hôl hefyd, gan gynnwys yr Aduniad Cyn-fyfyrwyr a gyflwynir gan Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Andrew Edwards a Llywydd UMCB, Celt John, gyda pherfformiad gan Aelwyd JMJ. Ddydd Gwener, mae Prynhawn Prosecco UMCB yn ei ôl, gyda pherfformiad gan Fand Pres Llareggub.
Y Parth Gweithgareddau
Gwahoddir y cyhoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous:
- Dewch i weld parc saffari rhithrealiti tanddwr cyntaf y byd, OceanRift, a ddatblygwyd gan arbenigwr graffeg gyfrifiadurol Prifysgol Bangor, Llŷr ap Cenydd, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r cwmni technoleg enfawr, Meta.
- Trïwch cacennau afal iachach ac ymunwch yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd, wrth i’r Ganolfan Biogyfansoddion gydweithio gyda Pennotec, y cwmni o Bwllheli, a’r cwmni pobi The Pudding Compartment.
- Dewch i ddysgu sut mae eich corff yn gweithio ac archwilio modelau anatomegol gydag Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.
- Plymiwch i'n moroedd lleol gydag Ysgol Gwyddorau’r Eigion, trwy wneud amrywiaeth o weithgareddau ymarferol ar bynciau gan gynnwys rhaeadrau tanddwr, llosgfynyddoedd y môr ac ysglyfaethwyr y môr!
- Ymgollwch yn swigen Bangor – gyda’r busnes cynaliadwy, Dr Zigs Giant Bubbles, a sefydlwyd gan un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, Paola Dyboski-Bryant.
Holwch am Fangor
Gwahoddir ymwelwyr i ymuno â staff y Brifysgol am banad a sgwrs yn ein pabell fawr, lle gall darpar fyfyrwyr glywed mwy am ein cyrsiau israddedig ac ôl-radd, cael Canllaw Cyrsiau a chwpan arbennig Eisteddfod 2023 y gellir ei defnyddio dro ar ôl tro - am ddim!
Y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Prifysgol Bangor yw prif noddwr Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni. Dewch i’r Dôm Gwyddoniaeth a Thechnoleg bob dydd am 2pm i fwynhau sgyrsiau hynod ddiddorol gan Brifysgol Bangor, sy’n trafod pynciau fel gofal iechyd cynaliadwy, dathlu merched dylanwadol mewn gwyddoniaeth, a datblygiadau mewn monitro firysau.
Bydd gan y brifysgol hefyd dri chaban pren yn y pentref ei hun, fydd yn gartref i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, yr Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg. Bydd stondin pob ysgol hefyd yn cynnal amserlen hwyliog o weithgareddau bob dydd.
Amserlen y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Yn rhan o Brifysgol Bangor, bu Parc Gwyddonieth M-SParc yn gyfrifol am drefnu’r pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar ran yr Eisteddfod. Maent hefyd yn cynnal sioe ar draws yr wythnos gyfan. Dewch i'w Cwt o fewn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg am weithgareddau gan gynnwys dylunio ac argraffu 3D, gwneud mygiau, a mesur eich ôl troed carbon!
Meddai’r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-ganghellor y Gymraeg, Cenhadaeth Ddinesig a Phartneriaethau Strategol:
“Mae presenoldeb Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod yn un o uchafbwyntiau mwyaf nodedig y calendr blynyddol, ac mae’n braf cael croesawu’r digwyddiad yn ôl i’r gogledd, ac i'n cymuned, am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.
“Mae’r Eisteddfod yn darparu llwyfan i ni gynnig blas o’r cyfoeth, y creadigrwydd a’r amrywiaeth o waith arloesol a wneir gan y brifysgol yng nghyd-destun y Gymraeg a dwyieithrwydd yng Nghymru. Rwy’n falch iawn bod staff a myfyrwyr ar draws y brifysgol wedi ymateb yn frwd unwaith eto i’r digwyddiad, i arddangos rhaglen orlawn ac amrywiol o weithgareddau a digwyddiadau. Mae ein cyfraniad i’r Eisteddfod yn dyst i ansawdd ac amrywiaeth yr arbenigedd sy’n bodoli yma ym Mangor, ac yn ddathliad o’n cyfraniad allweddol i dwf yr iaith Gymraeg yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.”