Ysgolion lleol yn perfformio cyngherddau Nadolig ar lwyfan Theatr Bryn Terfel, Pontio
Mae Canolfan Pontio yn edrych ymlaen yn arw i groesawu tair ysgol leol draw i’r Ganolfan ar gyfer sioeau a pherfformiadau wrth i’r Nadolig nesau.
Yn gyntaf, bydd Ysgol Tryfan, Bangor yn cyflwyno 'MELA', stori ddifyr a dramatig am geisio achub clwb ieuenctid! Bydd perfformiad arbennig i ysgolion cynradd lleol yn y prynhawn ac yna dau berfformiad cyhoeddus ar 13 + 14 Rhagfyr.
Bydd Pontio hefyd yn croesawu Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor ac Ysgol Llanllechid ar gyfer eu cyngherddau Nadolig. Bydd Ysgol Ein Harglwyddyes yn cyflwyno ‘The Magical Christmas Jigsaw’ ac ‘A Wriggly Nativity’ ar Nos Lun 18 Rhagfyr, ac yna bydd Ysgol Llanllechid a Chôr y Penrhyn yn dathlu Gŵyl y Geni o dan arweiniad Mrs Delyth Humphreys a Mr Owain Arwel Davies ar Nos Fawrth 19 Rhagfyr.
Meddai Osian Gwynn, Cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio:
“Mae Pontio yn mynd i fod yn fwrlwm o adloniant dros mis Rhagfyr, ac mae’n hynod o bwysig medru cynnig llwyfan i’n ysgolion lleol yn ogystal â’r rhaglen broffesiynol.”
Am docynnau a manylion pellach am raglen mis Rhagfyr, ewch i wefan Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio