Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain 2023
Mae gan Brifysgol Bangor bartneriaeth gadarn gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain (BIBF). Mae'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i astudio'r flwyddyn sylfaen a dwy flynedd gyntaf eu cymhwyster yn Bahrain a chwblhau'r flwyddyn olaf ym Mangor i gael eu gradd israddedig.
Yn 2016, sefydlwyd Gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF i gydnabod cyn-fyfyriwr o raglen Prifysgol Bangor a BIBF sydd wedi cyflawni rhagoriaeth broffesiynol yn eu dewis faes yn ogystal â chyfrannu at eu cymuned.
Yn aduniad cyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor eleni a gynhaliwyd ym Mhencadlys BIBF yn Nheyrnas Bahrain, cyhoeddwyd Hasan Sater fel Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2023.
Graddiodd Hasan o Brifysgol Bangor yn 2012 gyda gradd mewn Bancio a Chyllid. Ef yw Cyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Ariannu Gweithrediadau yn y Weinyddiaeth Gyllid ac Economi Genedlaethol. Mae gan Hasan dros 10 mlynedd o brofiad ar draws amrywiol swyddi - y mwyafrif ohonynt yn y Weinyddiaeth - sydd wedi cynnwys swyddi Pennaeth Rheoli Refeniw Cyhoeddus ac Uwch Ddadansoddwr Ariannol mewn Materion Datblygu Refeniw Cyhoeddus.
Y tu allan i'w yrfa broffesiynol, mae Hasan wedi bod yn rhan o Ayadi Relief, y sefydliad cymorth cyntaf yn Bahrain, a sefydlwyd gan grŵp o bobl ifanc o Bahrain sy’n angerddol am waith gwirfoddol a’r awydd i helpu eraill. Eu cenhadaeth yw darparu cymorth, codi ymwybyddiaeth a helpu i adsefydlu gwledydd â thlodi mawr ledled y byd, gan helpu'r gwledydd hyn gyda'u hanghenion iechyd, addysg a chymdeithasol. Bu Hasan yn chwarae rhan weithredol yn yr adran Gyllid yn Ayadi Relief rhwng 2015-2016 ac ers hynny mae wedi ymgymryd â rôl ategol ad hoc yn hwyluso prosesau recriwtio yn y sefydliad.
Cyflwynwyd ei wobr i Hasan gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yn ystod yr aduniad blynyddol yn Bahrain ar 28 Tachwedd. Yn ystod yr aduniad, sydd bob blwyddyn yn cyd-daro â seremoni raddio rhaglen BIBF, daeth 70 o gyn-fyfyrwyr at ei gilydd am noson o ddal i fyny â'i gilydd a chyda staff BIBF a Phrifysgol Bangor. Mwynhaodd y gwesteion hefyd rai gweithgareddau hwyliog dros ddiodydd a bwyd blasus yn edrych allan ar y golygfeydd godidog dros Fae Bahrain.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Hasan, “Mae’n anrhydedd mawr cael fy enwi’n Alumnus y Flwyddyn 2023 Prifysgol Bangor / BIBF. Mae gen i lawer o atgofion melys o fy amser yn y Brifysgol ac yn ystyried y ffrindiau wnes i ym Mangor a BIBF fel fy ail deulu. Mae methodolegau addysgu BIBF a Bangor yn ategu ei gilydd yn dda iawn ac rydw i’n teimlo’n wylaidd iawn cael fy nghydnabod gan y sefydliadau gwych hyn.”
Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol Bangor, “Llongyfarchiadau mawr i Hasan ar gael ei enwi’n Gyn-fyfyriwr y Flwyddyn! Rydym ni ym Mhrifysgol Bangor a’n cydweithwyr yn BIBF yn falch iawn o’i lwyddiannau ac roedd yn bleser mawr gallu ei gydnabod fel enghraifft wych o’r hyn y gall ein graddedigion ei gyflawni.”