Rhoddion cyn-fyfyrwyr yn cefnogi fideos Undeb Bangor
Fis Hydref 2022, cyflwynodd Undeb Bangor (Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor) gais i Gronfa Bangor i ariannu project i greu fideos difyr o uchel ansawdd o grwpiau’r myfyrwyr at amrywiol ddibenion marchnata. Cawsant £5,299 fis Tachwedd 2022 ac aethant ati i drefnu gwasanaethau cwmni ffilmio a golygu proffesiynol, a lwyddodd i gipio hanfod profiad myfyrwyr Prifysgol Bangor yn y pen draw gan gynnwys ein cyfleusterau o gwych a’r ymdeimlad sydd yma o gymuned, perthyn ac ysbryd tîm.
Y syniad y tu ôl i’r cais oedd y gallai’r Undeb, trwy gyfoethogi deunyddiau hysbysebu, amlygu’n effeithiol yr amrywiol weithgareddau sydd ar gael i fyfyrwyr a phortreadu’r bywyd myfyrwyr bywiog y mae Prifysgol Bangor yn ei gynnig, yn ogystal â’r lleoliad hardd. Daeth y fideos hynny’n arf hanfodol eisoes i recriwtio myfyrwyr yn ogystal â gwneud y myfyrwyr presennol yn ymwybodol o'r cyfleoedd lu sydd ar gael iddynt.
Cafodd y ffilm ei dangos eisoes yn ystod y Diwrnodau Agored. Caiff ei rhannu hefyd ag adrannau perthnasol, ei hintegreiddio yn y gweithgareddau hyrwyddo yn ystod y cyfnod croeso, a'i defnyddio'n gyson trwy gydol y flwyddyn mewn ymdrechion recriwtio cyffredinol.
Mae’r archif o fideos o glybiau a chymdeithasau’r myfyrwyr wedi arwain at ganlyniadau cyflymach i dîm marchnata canolog y Brifysgol. Cafodd wared ar yr oedi gyda’r broses o gysylltu â’r clybiau ac amserlennu a recordio ffilm. Enghraifft o hynny yw'r defnydd o ffilm o'r Clwb Padlo a ddefnyddiwyd yn fideo YouTube hyrwyddo Diwrnod Agored y tîm marchnata, a welwyd 9,800 o weithiau mewn dau fis.
Dywedodd Tiffany Ferrier, Swyddog Recriwtio Ymgyrchoedd y Deyrnas Unedig, Recriwtio a Derbyn y Deyrnas Unedig, “Mae project fideos y clybiau a’r cymdeithasau yn amhrisiadwy i’n hymgyrchoedd hysbysebu recriwtio canolog. Cafodd ei ddefnyddio yn ein holl ddeunyddiau fideo at ddibenion Clirio a’i hyrwyddo ar Facebook, Instagram, Snapchat, TikTok, YouTube, Connected TV ac ar wefannau darparwyr trydydd parti. Mae’n arddangos profiad Bangor yn gelfydd iawn.”
Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni, “Dyma broject yr oedd Cronfa Bangor yn awyddus i’w gefnogi oherwydd bod y fideos yn dod â phrofiad myfyrwyr yn fyw ac mae o fudd i’r Brifysgol gyfan.”