Datblygwyd rhaglen BUILT gan staff a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac mae’n dod â myfyrwyr ynghyd i ffurfio timau trawsddisgyblaethol i weithio ar greu datrysiad i her cynaliadwyedd a bwyd. Cychwynnwyd y rhaglen gan y cyn-fyfyriwr Kailesh Karavadra ac fe'i harweiniwyd gan Dr Andy Goodman. Gwelodd rownd derfynol y rhaglen eleni 34 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn cyflwyno eu cynigion. Cafodd pob un o’r timau hyn eu mentora gan gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol a’u helpodd i ddatblygu eu syniadau ac sydd wedi bod wrth law i’w cynghori a’u harwain.
Rhoddodd y rhaglen semester o hyd y cyfle i fyfyrwyr ddysgu gwybodaeth fusnes sylfaenol fel rhagweld, cynllunio ac adrodd ar elw/colled, gan ennill gwerthfawrogiad o’r hyn sydd ei angen i ddechrau cwmni a chael profiad o fynd â syniad trwy feddylfryd dylunio i brototeipio at ddefnydd y farchnad o bosib.
Yn ystod y rhaglen, cafodd myfyrwyr eu gwahodd hefyd i ymuno ag arbenigwyr yn eu maes ar gyfer 14 'golwg manwl' ar bynciau i'w helpu i arwain eu projectau. Arweiniwyd nifer o'r rhain hefyd gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Daeth y rhaglen BUILT i ben ar 2 Mai gyda phob tîm o fyfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid annibynnol. Yna arddangosodd y timau bosteri i egluro eu gwaith, a chafodd y pump beirniad gyfle i ofyn cwestiynau cyn dewis eu henillwyr.
Enillwyr 2024 oedd 'Tîm Tatws' gyda'u cynnyrch 'Grad Chef', ap sy'n cyfeirio myfyrwyr at gynnyrch a busnesau lleol, gyda nodwedd ryseitiau a fydd yn atal gwastraff bwyd. Derbyniodd y tîm y brif wobr o £10,000 i ddatblygu eu busnes ymhellach. Gwnaethpwyd “Gwobr Mabel Evans am Arloesedd” o £10,000 yn bosibl oherwydd rhodd garedig gan y cyn-fyfyriwr Jonathan Wright (1999, Polisi Cymdeithasol/Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol) er cof am ei hen nain, a fu hefyd yn astudio ym Mangor.
![Team Tatws](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6330.jpg?h=73dbaf3c&itok=qd6xAfsJ)
Cafodd Tîm Tatws ei fentora gan y cyn-fyfyriwr, Kailesh Karavadra, a ddywedodd “Mae’r rhaglen BUILT yn darparu sgiliau dysgu trwy brofiad sydd mor berthnasol yn y byd gwaith heddiw ac rydyn ni’n credu sy’n gwahaniaethu ein myfyrwyr wrth iddynt gystadlu am gyflogadwyedd. Gwaith arbennig gan y Brifysgol a llongyfarchiadau mawr i Dîm Tatws. Roedd eu syniad buddugol ar gefnogi Myfyrwyr Cynaliadwyedd yn ymwneud â thyfu bwyd lleol yn wych i’w weld o’r had i’r cynhaeaf!”
Dyfarnwyd gwobrau o £2,500 i’r ail orau i Avocado Associates am eu ap WellRooted, i fynd i’r afael â’r heriau logisteg a dosbarthu a wynebir gan ffermwyr lleol, a Carrot Crusaders a’u cynnyrch Dragon Nutrition, cymysgedd o lysiau sych, lleol ar ffurf pŵer i’w ychwanegu at brydau. Dyfarnwyd y £5,000 hwn o Gronfa Bangor a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr o roddion gan gyn-fyfyrwyr.
Noddwyd rownd derfynol BUILT hefyd gan Succession Wealth, cwmni cyngor ariannol cenedlaethol mawr, a WeSpeak, rhaglen sy’n trawsnewid hyder siarad myfyrwyr prifysgol, a ddarparodd dri lle i fyfyrwyr ar gyfer eu rhaglen Haf 2024.
Dywedodd y prif feirniad, Tim Clay: “Roedd yn fraint cael bod yn rhan eto o fenter mor wych fel prif feirniad ac roedd yn gwbl amlwg bod y myfyrwyr wedi cael llawer iawn allan o’r profiad a fydd o fudd iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Wrth siarad yn uniongyrchol ag aelodau'r tîm, roedd eu brwdfrydedd yn eithaf amlwg. Efallai ein bod ni wedi darganfod ychydig o entrepreneuriaid newydd!”
Trwy gymryd rhan yn y rhaglen, caiff y myfyrwyr gyfle gwych i dynnu ar arbenigedd ein cyn-fyfyrwyr a dysgu am fyd cyflogaeth trwy fentora grŵp ac un-i-un gan arbenigwyr yn eu maes.
Oriel Gwobrau BUILT
![Team Tatws](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6176.jpg?h=c158c83f&itok=ecX_iviJ)
![Tîm 'GMO's'](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6327.jpg?h=c7c1784e&itok=hldEF9R3)
![Team Tatws](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6330.jpg?h=73dbaf3c&itok=qd6xAfsJ)
![Tîm 'Carrot Crusaders'](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6345.jpg?h=c6d97f23&itok=Tjbd0VE9)
![Tîm 'Sexy Salad'](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6335.jpg?h=93631d10&itok=NSKqqQTU)
![Tîm 'Avocado Associates' gyda'u mentor, Mark Rigby](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6369.jpg?h=b9c12fd6&itok=KPdEJ5i6)
![Tîm 'Terrific Turnips'](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6370.jpg?h=f1cd343e&itok=PqRMdcno)
![Myfyrwyr, Mentoriaid, Beirniaid a'r Tîm BUILT](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6442.jpg?h=5e2c91a4&itok=CKwC2Bhn)
![Beirniaid a'r gynulleidfa yng nghyflwyniadau rownd terfynol BUILT](/sites/default/files/styles/3x2_900w/public/2024-05/gwobroau-built-2024-6086.jpg?h=f9e270d3&itok=9bRh_Rtz)
Gellwch weld y cyfan o'r lluniau o'r digwyddiad yma.
![Logo and words succession planning](/sites/default/files/styles/scale_900/public/2024-05/SW_Logo_HOR_PMS874_SingleLine.jpg?itok=WbQwXEB0)