Dathlodd Ysgol Busnes Bangor ei hymaelodaeth diweddar â’r Sefydliad Busnesau a Mentrau Bychain
Dathlodd Ysgol Busnes Bangor ei hymaelodaeth diweddar â’r Sefydliad Busnesau a Mentrau Bychain [ISBE] trwy gynnal dau ddigwyddiad yn ystod y mis diwethaf. Cynhaliwyd Symposiwm Gwanwyn yr ISBE i Ymchwilwyr/Academyddion ar Ddechrau eu Gyrfa yn syth ar ôl Gweithdy Grŵp Diddordeb Arbennig Menter Wledig yr ISBE. Denodd y ddau ddigwyddiad academyddion o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Cefnogwyd Symposiwm Gwanwyn yr ISBE i Ymchwilwyr/Academyddion ar Ddechrau eu Gyrfa gan Olygyddion y Cyfnodolyn, yr Athro Paul Jones o Brifysgol Abertawe a'r Athro Susan Marlow o Brifysgol Nottingham. Rhoesant gynghorion amhrisiadwy am y grefft o ysgrifennu ar gyfer cyhoeddi a chreu effaith a’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil [REF]. Nododd ymwelwyr fod y digwyddiad yn un cynhwysol a chroesawgar iawn, ac mae’r ymateb a gafwyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r cyfranogwyr ar y diwrnod.
Cefnogwyd Digwyddiad Grŵp Diddordeb Arbennig Menter Wledig yr ISBE gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol, Dr Rebecca Jones a Dr Eifiona Thomas Lane, ac yn allanol gan Gadeiryddion y Grŵp Diddordeb Arbennig, yr Athro Robert Newbery a’r Athro Gary Bosworth o Brifysgol Northumbria. Sbardunodd y sesiynau rhyngweithiol sgyrsiau ar y thema: Menter Wledig a Chymuned, ac yn sgil sesiwn rwydweithio a hwyluswyd ffurfiwyd timau ymchwil cydweithredol newydd.
Diolch yn fawr iawn i Dr Liz Heyworth-Thomas am drefnu a chynnal digwyddiadau’r Sefydliad Busnesau a Mentrau Bychain, ac i Dr Edward Thomas Jones, Dr Siwan Mitchelmore a’r Athro Rosalind Jones am gefnogi’r digwyddiadau, ac i holl staff Ysgol Busnes Bangor a fu’n bresennol.