07/24 Diwrnod Beicio i’r Gwaith 1 Awst 2024 & Arolwg Beicio Staff
Mae Diwrnod Beicio i'r Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol sy'n hyrwyddo beicio fel opsiwn ar gyfer teithio i'r gwaith. Mae reidio beic yn iach, yn hwyl ac yn fath o ymarfer corff effaith isel. P’un ai nad ydych erioed wedi beicio o’r blaen, neu allan o arfer, mae hwn yn amser da i’w gyflwyno i’ch cymudo. Fel rhan o’r Diwrnod Beicio i’r Gwaith cenedlaethol, hoffem dynnu sylw at rywfaint o’r wybodaeth sydd ar gael i staff:
- Ategolion at seiclo’n diogel
- Cynnal a chadw’r beic
- Siopau adwerthu, atgyweirio a gwasanaethu beiciau
- Grwpiau a chlybiau beicio lleol
- Llwybrau seiclo a beicio mynydd y gogledd
- Cawodydd a raciau beiciau
- Cynllun seiclo i’r gwaith y staff
Eich Profiad Beicio
Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i wella cyfleoedd i’n cymuned staff a myfyrwyr gymryd rhan mewn beicio – fel rhan o hyn byddai’n ddefnyddiol gwybod mwy am brofiadau staff o feicio a deall unrhyw rwystrau i wneud hynny. P’un a ydych chi’n beicio’n rheolaidd ar gyfer gwaith neu ar gyfer hamdden, efallai wedi defnyddio’r Cynllun Beicio i’r Gwaith i brynu beic, neu os hoffech feicio mwy ond ddim yn siŵr ble i ddechrau – cwblhewch yr arolwg dwy funud hwn.