Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2024
Mae Ysgol Busnes Prifysgol Bangor wedi mwynhau partneriaeth lwyddiannus dros 20 mlynedd gyda Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain (BIBF) Mae'r rhaglen yn galluogi myfyrwyr i astudio'r flwyddyn sylfaen a dwy flynedd gyntaf eu cymhwyster yn Bahrain, a chwblhau'r flwyddyn olaf ac ennill eu gradd israddedig ym Mhrifysgol Bangor.
Sefydlwyd Gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF yn 2016. Sefydlwyd y wobr i gydnabod cyflawniadau ein cyn-fyfyrwyr, ac i gydnabod un cyn-fyfyriwr bob blwyddyn sydd wedi cyflawni rhagoriaeth broffesiynol yn eu maes dewisol.
Yn ystod aduniad blynyddol y cyn-fyfyrwyr a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2024 ar deras Pencadlys BIBF yn Nheyrnas Bahrain, cyhoeddwyd mai Duaa AlMasqati yw Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF 2024.
Graddiodd Duaa o Brifysgol Bangor yn 2009 gyda gradd mewn Bancio a Chyllid. Mae hi’n gweithio fel Uwch Reolwr Gweithredu Strategol ac Arweinydd Tîm gyda Grŵp Cyfnewidfa Stoc Llundain, a leolir ym Manama.
Yn ei swydd, mae’n rheoli’r gwaith o ddatblygu, cynhyrchu a chyflwyno’r portffolio projectau strategol cyfan, gan feithrin a chynnal perthnasoedd ag amrywiol randdeiliaid allanol yn y diwydiant, sy’n cwmpasu’r Gwasanaethau Ariannol, Marchnadoedd Cyfalaf, Cyllid Islamaidd, Risg a Chydymffurfiaeth a Diwydiannau Cyllid Cynaliadwy. Mae hi'n Weithiwr Rheoli Projectau Proffesiynol ardystiedig, yn Strategaethydd Cyfryngau Cymdeithasol cymwysedig, ac mae ganddi brofiad o weithio i Thomson Reuters, Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig, American Express a Standard Chartered Bank.
Wrth dderbyn ei gwobr gan yr Athro Andrew Edwards, sef Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor, dywedodd Duaa “Diolch am yr anrhydedd fawr hon. Dewisais fy ngradd gan fy mod eisiau ennill profiad o astudio gartref a thramor. Roedd gan Brifysgol Bangor enw da iawn, ac roedd ei chysylltiad â'r BIBF yn dangos ansawdd gweithwyr proffesiynol ariannol a’r ffaith bod y pynciau'n berthnasol i farchnad ariannol Bahrain. Enillais lawer o annibyniaeth yn ystod fy amser ym Mangor, ac roedd rhyngweithio â chymaint o bobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd yn bendant o fantais i mi. Rwy’n gwerthfawrogi’r gydnabyddiaeth gan y Brifysgol a Sefydliad Bancio a Chyllid Bahrain yn fawr.”
Dywedodd Emma Marshall, sef Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, “Llongyfarchiadau gwresog i Duaa. Rydym ni yma ym Mhrifysgol Bangor, a’n cydweithwyr yn y BIBF, yn falch iawn o gydnabod ei chyflawniadau gyda’n gwobr Alumnus y Flwyddyn Prifysgol Bangor / BIBF. Mae’r rhaglen wedi cynhyrchu cyn-fyfyrwyr gwych, ac mae Duaa yn enghraifft wych o galibr y myfyrwyr sy’n astudio gyda ni”.