Prifysgol Bangor ymysg yr 11% uchaf yn fyd-eang o ran cynaliadwyedd
Cafodd Prifysgol Bangor ei rhestru ymysg yr 11% uchaf yn fyd-eang am gynaliadwyedd yn Nhabl Cynghrair Cynaliadwyedd Byd-eang QS 2025.
Mae’r Brifysgol wedi llwyddo i gadw ei safle ymysg y 200 uchaf, ac wedi ei gosod yn safle 196 allan o 1,751 o sefydliadau. Gosodwyd Bangor yn safle 37 o blith 99 o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig.
Lansiodd QS Dabl Cynghrair Cynaliadwyedd yn 2022 a QS sydd hefyd yn cyhoeddi Tabl Cynghrair dylanwadol Prifysgolion y Byd.
Mae cynnwys cynaliadwyedd yn un o ystyriaethau tablau cynghrair QS yn cyd-fynd gyda phrif thema cynllun strategol y Brifysgol – Strategaeth 2030: byd cynaliadwy i genedlaethau'r dyfodol – ac mae’n adlewyrchu’r newid a fu ym mlaenoriaethau myfyrwyr ac ym mlaenoriaethau cymdeithas yn ehangach dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r tabl cynghrair yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, sef Effaith Amgylcheddol, Effaith Gymdeithasol, a Llywodraethiant.
Perfformiodd y Brifysgol yn gryf yn y categori Effaith Amgylcheddol, gan aros yn y 150 uchaf (138ain). Cafodd y perfformiad cyffredinol yn y maes hwn ei ysgogi gan gyrraedd y 100 uchaf yn Addysg Amgylcheddol (67ain) ac Ymchwil Amgylcheddol (78ain). Perfformiodd y rhain yn gryf yn y Deyrnas Unedig, gydag Addysg Amgylcheddol yn 16ed ac Ymchwil Amgylcheddol yn 21ain (allan o 98 sefydliad yn y Deyrnas Unedig).
Roedd categori Effaith Gymdeithasol yn gyfforddus ymhlith y 400 uchaf (355ain), a chafwyd perfformiad hynod o gryf yn y dangosydd Iechyd a Llesiant. Yn y dangosydd yma, cafodd y Brifysgol ei gosod yn safle 46 yn fyd-eang, ac yn uchel yn y Deyrnas Unedig, yn 24ain o 98. Gyda’r dangosydd Effaith Addysg rydym wedi codi 183 safle, gan gyrraedd 412ain. Hefyd yn y categori yma, yr ydym yn y 300 uchaf gyfer y dangosydd Cydraddoldeb ac yn y 500 uchaf ar gyfer Cyfnewid Gwybodaeth.
Yn y categori olaf, Llywodraethiant, sydd wedi ei seilio ar un dangosydd, roedd Bangor ymhlith y 200 uchaf (169ain).
Ers 2023, mae’r nifer o sefydliadau sydd yn cymryd rhan wedi cynyddu yn sylweddol, o 1,403 i 1,751.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy i’r Is-ganghellor dros Ymgysylltiad Byd- eang, “Gallwn fod yn hynod o falch yn be rydym wedi ei gyflawni ym maes cynaliadwyedd. Mae Tabl Cynghrair Cynaliadwyedd Byd-eang QS yn dangos bod Bangor yn sefydliad sydd yn flaengar yn fyd-eang yn y maes yma. Mae’n glir ein bod yn perfformio’n gryf ar draws nifer o ddangosyddion allweddol o Effaith Amgylcheddol i Iechyd a Llesiant.”