Ymchwilwyr Canolfan Prosesu Signalau Digidol yn gwneud cyflwyniad mewn Digwyddiad Cymunedol Ymchwil TITAN llwyddiannus
Ymchwilwyr Canolfan Prosesu Signalau Digidol yn gwneud cyflwyniad mewn Digwyddiad Cymunedol Ymchwil TITAN llwyddiannus
Ddydd Gwener 13 Medi, cyflwynodd Dr Luis Vallejo, Jiaxiang He ac Omaro Gonem bosteri ymchwil yn Nigwyddiad Cymunedol Ymchwil TITAN a gynhaliwyd gan dîm TITAN Telecoms Hub ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd cyfanswm o 90 o ymchwilwyr yn bresennol, o 24 o sefydliadau partner.
Cyflwynodd Jiaxiang He boster ymchwil ar y dechneg diogelwch haen ffisegol sy'n seiliedig ar hidlydd digidol anhrefnus (CDF) ar gyfer rhwydweithiau mynediad heterogenaidd, gan ddarparu nodweddion amlwg o 'ddiogelwch drwy ddyluniad', 'bod yn agored wrth ddylunio', a 'diogelwch deinamig yn lefel y traffig'.
Cyflwynodd Omaro Gonem boster ymchwil o'r enw ‘Soft-ROADMs with Dual-Arm Drop Elements for Future Fixed-Mobile Converged Access Networks’, ac mae'r gwaith ymchwil hwn yn cynnig ac yn gwirio dyfais newid optegol cost effeithiol newydd gyda pherfformiad cam-gwrthbwyso-ansensitif ar gyfer cydgyfeiriant rhwydwaith mynediad symudol a sefydlog 6G a thu hwnt.
Cyflwynodd Dr Luis Vallejo ddau boster ymchwil ‘Seamlessly Converged Fiber-Wireless Access Networks with Dynamic Sub-wavelength Switching and Tunable Photonic mmWave Generation’ a ‘Centralized Full-Duplex Heterogeneous Access Networks Seamlessly Integrating Fiber, Free-Space Optics and Wireless Networks’
Mae ‘Seamlessly Converged Fiber-Wireless Access Networks with Dynamic Sub-wavelength Switching and Tunable Photonic mmWave Generation’ yn cynnig ac yn dangos yn arbrofol rwydwaith mynediad ffibr-diwifr cydgyfeiriol sy'n gost-effeithiol ac sy'n defnyddio proses newid sianel ddeinamig ar lefel is-donfedd wedi'i alluogi gan ROADM meddal ac offer cynhyrchu/canfod mmWave tiwnadwy sy'n rhedeg yn rhydd â laser/amlen. Nid oes angen unrhyw drawsnewidiadau O-E-O na Phrosesu Signalau Digidol ar nodau canolraddol ar gyfer y dechneg arfaethedig, ac mae'n cynnig trosglwyddiad mmWave deinamig y gellir ei reoli gan RRH.
Mae ‘Centralized Full-Duplex Heterogeneous Access Networks Seamlessly Integrating Fiber, Free-Space Optics and Wireless Networks’ yn cyflwyno system drawsyrru dwplecs llawn mmWave ganolog ar gyfer rhwydwaith mynediad heterogenaidd deugyfeiriadol sy'n cyfuno ffibr, opteg gofod rhydd, a thechnolegau diwifr. Mae'r system yn defnyddio laserau sy'n rhedeg yn rhydd ar gyfer cynhyrchu mmWave gyda chymorth ffotoneg a thrawsyriant i fyny'r afon, ynghyd â chanfodyddion amlen yn yr UEs ar gyfer trosi signalau mmWave a dderbynnir yn uniongyrchol heb LO. Mae'r dull hwn yn sicrhau tryloywder i amleddau mmWave.
Llongyfarchiadau i'r tri a llongyfarchiadau arbennig i Jiaxiang a ddaeth yn 2il allan o 34 poster a arddangoswyd yn y gystadleuaeth poster ymchwil gorau.
Chwilfrydig ynghylch beth yw pwrpas project TITAN?
Gwyliwch fideo ‘Driving the Ultimate Capability’ TITAN Telecoms Hub, sy’n cynnwys ymchwilwyr y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol, i glywed yn uniongyrchol gan rai o’r academyddion blaenllaw ar sut mae TITAN yn llywio dyfodol arloesedd telathrebu.