Sgowtiaid Llangefni’n Archwilio Traddodiadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda Gweithdai Hwyliog!
Cafodd Sgowtiaid Beavers a Cubs Llangefni amser gwych yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda gweithgareddau creadigol wedi’u cynnal gan Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
Aeth y Sgowtiaid ati i wneud llusernau a thorri papur, gan ddylunio eu haddurniadau lliwgar eu hunain wrth ddysgu am y traddodiadau y tu ôl iddynt. Cawsant hefyd fwynhau cyflwyniad diddorol ar arferion Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, a dysgu am straeon anifeiliaid y Sidydd, ystyr amlenni coch, a phwysigrwydd dathliadau teuluol.
Dywedodd Katie Coburn o Sgowtiaid 1af Llangefni am y sesiwn:
"Roedd y plant wrth eu bodd â’r sesiwn – ni allai fod wedi bod yn well. Roedd yn gyfle gwych iddynt ddysgu rhai ymadroddion Tsieinëeg sylfaenol a darganfod diwylliant Tsieina drwy weithgareddau ymarferol. Roeddent yn llwyr ymroddedig drwyddi draw ac yn mwynhau’r profiad yn fawr."
Roedd y digwyddiad yn ffordd hwyliog ac addysgol i’r Sgowtiaid archwilio diwylliant Tsieina, gan danio creadigrwydd ac ysbrydoli chwilfrydedd am draddodiadau byd-eang.