Mae'r Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), a Chanolfan Newid Ymddygiad Cymru (WCBC) yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, yn ymchwilio i'r buddion lles a'r gwerth cymdeithasol y mae Gardd Fotaneg Treborth yn ei gynhyrchu i’r bobl sy'n ymweld â'r ardd ac yn gwirfoddoli yno, gan gynnwys staff, myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned leol.
Mae’r cysylltiadau rhwng gerddi, garddio a lles yn cael eu cydnabod yn helaeth, ac mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a'r Sefydliad Iechyd Meddwl wedi amlygu garddio fel rhywbeth a allai fod yn werthfawr wrth gefnogi iechyd a lles.
Mae oddeutu 35,000 o bobl yn ymweld â Gardd Fotaneg Treborth bob blwyddyn, lle cânt fynediad am ddim i 45 erw o goetir a gardd wedi ei thirlunio, ynghyd â saith tŷ gwydr trofannol a thymherus sy'n gartref i dros 3,500 o rywogaethau. Yng Nghymru gyfan, nid oes ond tair gardd fotaneg, ac mae gan Dreborth, yr unig un yng Ngogledd Cymru, enw da’n rhyngwladol ac mae’n gartref i gasgliadau cadwraeth pwysig a labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop.
Mae Treborth yn cynnal ystod o fentrau gwirfoddoli sy'n rhoi cyfle i staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach ddysgu am blanhigion, sgiliau garddio a phrofi'r ardd fotaneg trwy'r tymhorau. Mae Cyfeillion Gardd Fotaneg Treborth, yn weithgar iawn yn cynorthwyo staff Treborth ac mae grŵp rheolaidd o wirfoddolwyr ymroddgar yn gofalu am yr ardd bob dydd Mercher a dydd Gwener. Mae Treborth hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Grŵp Gweithredu Myfyrwyr Treborth sy’n trefnu i griwiau o fyfyrwyr ddod yno i wneud gwaith yn rheolaidd.
Yn fwyaf diweddar, llwyddodd Natalie Chivers, Curadur Gardd Fotaneg Treborth, i gael cyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) i gynnal rhaglen arddio i staff, sy’n cael ei hyrwyddo trwy dudalennau Datblygu Staff y Brifysgol, i gynnig cyfle i staff dreulio hanner diwrnod y mis yn yr Ardd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn cymryd rhan mewn ystod o brojectau yn yr ardd fesul tymor.
Gardd Fotaneg Treborth
Meddai Natalie:
“Mae tystiolaeth wyddonol gynyddol yn tynnu sylw at bwysigrwydd gerddi a garddio i les corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Rwy’n falch iawn bod y cyllid a gawsom gan HEFCW wedi ein galluogi i ddatblygu’r rhaglen arddio hir-ddisgwyliedig hon fel y gall staff ymwneud â mannau gwyrdd fel rhan o’u hwythnos waith.
Mae'r staff a'r gwirfoddolwyr yn Nhreborth yn darparu sesiynau garddio ymarferol ym mhob tymor lle gall staff ymlacio, mwynhau gweithgarwch corfforol a chwrdd â chydweithwyr newydd. Mae ein sesiynau'n cynnwys lluosogi planhigion, cynnal a chadw coetiroedd, compostio, cadw gwenyn, pwll bywyd gwyllt a rheoli dolydd blodau gwyllt. Rydyn ni'n mwynhau cael croesawu staff o nifer fawr o adrannau gwahanol i'r ardd, gan rannu gwybodaeth gyda nhw a manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan yr ardd fotaneg i'w gynnig."
Bydd yr astudiaeth hon yn ein helpu i wella ein dealltwriaeth o werth Gardd Fotaneg Treborth i'r Brifysgol a'r gymuned leol a bydd hefyd yn helpu Treborth i wella cyfleoedd gwirfoddoli wrth symud ymlaen. Bydd yr astudiaeth hefyd yn gweithredu fel cynllun peilot i lywio gwerthusiad CHEME o raglen iechyd a lles y Brifysgol.
Cefnogir yr astudiaeth gan Economeg Iechyd a Gofal Cymru (HCEC), a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a chaiff ei chynnal rhwng Tachwedd 2021 a Mehefin 2022. Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr CHEME sy'n arwain yr astudiaeth, gan gydweithredu â'r Athro John Parkinson, Deon y Coleg Gwyddorau Dynol.
Meddai Rhiannon:
“Rydym wedi cyffroi o gael gweithio ar y cyd â Gardd Fotaneg Treborth i gynnal astudiaeth o adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad garddio gwirfoddol yn Nhreborth. Dadansoddiad cost a budd yw astudiaeth o’r fath sy'n ystyried barn llawer o randdeiliaid ac yn gosod gwerthoedd ar bethau nad oes ganddynt werth yn y farchnad, pethau megis lles. Trwy'r gwaith hwn rydym yn gobeithio gwella ein dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth am y rôl y gall yr ardd ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles staff, myfyrwyr a'r gymuned leol."
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yng Ngardd Fotaneg Treborth cysylltwch â Natalie Chivers yn n.j.chivers@bangor.ac.uk.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth hon neu am waith arall a wneir gan y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol yn CHEME, cysylltwch â'r Athro Rhiannon Tudor Edwards yn r.t.edwards@bangor.ac.uk.