Er mwyn gwarchod bioamrywiaeth a diogelu’r buddion y mae ecosystemau naturiol yn eu cynnig i ddynoliaeth, mae’r rhan fwyaf o lywodraethau ledled y byd wedi gosod targed ‘30 mewn 30’ iddynt eu hunain, sef gwarchod o leiaf 30% o dir a chefnforoedd y byd erbyn 2030 (dyma un o nodau allweddol Fframwaith Bioamrywiaeth Fyd-eang Kunming-Montreal).
Mae gwyddonwyr sy’n adolygu gwerth 20 mlynedd o ddata o riffiau cwrel cyn, yn ystod ac ar ôl cyfnod digynsail o dymereddau môr uchel o amgylch Hawaii yn awgrymu, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i riffiau cwrel, fod angen cysylltu’r ardaloedd o dir a môr sydd wedi’u targedu ar gyfer cadwraeth.
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Nature (9/8/23 DOI 10.1038/s41586-023-06394-w), yn nodi bod gan yr ardaloedd o greigresi cwrel a lwyddodd i oroesi cyn ac ar ôl y cyfnod o dywydd poeth yn y môr yn 2015 rywbeth yn gyffredin: roedd lefelau llai o ddeunydd llygrol dynol o’r tir megis llygredd dŵr gwastraff yn y mannau hynny. Roedd ganddynt hefyd gymunedau mwy niferus o bysgod llysysol sy'n bwydo ar yr algâu noddlawn sy'n cystadlu â chwrelau ffurfio riffiau am ofod ar lawr y riff.
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor a Pacific Islands Fisheries Science Center y National Oceanic and Atmospheric Administration yn yr Unol Daleithiau wedi dod i’r casgliad mai'r ffordd i gynyddu siawns riffiau cwrel o oroesi mewn byd sy’n cynhesu yw trwy integreiddio rheolaeth arfordirol dros y tir a’r môr.
“Mae effaith dyn ar y raddfa leol yn peryglu gallu naturiol riffiau cwrel i amddiffyn eu hunain, gan eu gwneud yn fwy agored i niwed a achosir gan gyfnodau o wres yn y môr, rhywbeth sy’n digwydd yn fwy aml ac yn fwy dwys oherwydd newid hinsawdd” meddai Dr Gareth Williams o Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor, un o brif awduron y papur.
“Tra bydd llywodraethau’n ymdrechu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac arafu cyflymder cynhesu cefnforoedd, mae angen strategaethau rheoli ar raddfa leol i liniaru effeithiau dyn a chefnogi parhad creigresi cwrel mewn byd sy’n cynhesu.” eglurodd Dr Williams.
“Fodd bynnag, nid yw amddiffyn tri deg y cant o ardaloedd tir a môr arfordirol yn ymarferol, ac mae’n anfoesegol o ystyried y gyfran uchel o bobl sy'n byw yn agos at yr ecosystemau hyn ac sy’n dibynnu arnynt. Yn lle hynny, er mwyn cael canlyniadau cadwraeth llwyddiannus mae angen polisïau cysylltiedig ar gyfer y tir a môr mewn unrhyw ardal lle ceir creigresi, polisïau megis rheoli dŵr gwastraff a llywodraethu pysgodfeydd” meddai Dr Williams.
“Roedd y dull traddodiadol o reoli adnoddau yn Hawaii yn ymestyn o'r mynyddoedd (mauka) i'r môr (makai) ac yn cynnwys y wahanfa ddŵr gyfan, neu’r Ahupuaʻa. Mae ein canfyddiadau’n cefnogi’r angen i ailintegreiddio’r tir a’r môr oddi fewn i un dull o reoli’r cefnfor arfordirol, yn debyg i’r hen drefn gynhenid o ofalu am ecosystemau’r ynysoedd” parhaodd Dr Gove.
“Wrth edrych i’r dyfodol, mae modelau hinsawdd yn rhagweld bod cynhesu cefnforol yn amrywio’n sylweddol mewn senarios lle mae llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr, hyd yn oed mewn ardaloedd daearyddol cymharol fach megis Hawaii. Gall camau sy’n cefnogi parhad creigresi cwrel yn lleol ochr yn ochr â gostyngiadau byd-eang mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr brynu amser i riffiau addasu a goroesi i’r dyfodol,” esboniodd Dr Williams.
Pam mae riffiau cwrel yn bwysig?
Mae riffiau cwrel yn cynnal chwarter yr holl rywogaethau cefnforol a nhw yw’r ecosystemau cefnforol mwyaf cynhyrchiol a biolegol amrywiol ar y ddaear. Mae riffiau cwrel yn amddiffyn yr arfordir rhag cael ei erydu gan donnau ac maent yn bwysig yn ddiwylliannol ac yn economaidd i'w cymunedau. Fodd bynnag, mae llawer o riffiau cwrel arfordirol hefyd wedi'i lleoli mewn ardaloedd poblog iawn.
Yn Hawaii, mae dros 85% o'r boblogaeth yn byw o fewn ychydig filltiroedd i'r arfordir, lle mae isadeiledd a gweithgareddau’r riffiau cwrel wedi'u crynhoi. Yn anochel, mae effaith dyn ar riffiau cwrel yn digwydd gerllaw’r ardaloedd hyn o ddatblygu arfordirol, gan gynnwys maetholion a gwaddod yn golchi i’r môr o dir amaethyddol a all niweidio cwrelau a physgodfeydd môr, ac sy’n aml yn targedu’r pysgod llysysol sy’n fuddiol i iechyd cyffredinol y riffiau. Yn ogystal â'r effeithiau dynol lleol hyn, mae’r newid hinsawdd byd-eang yn cynhesu’r cefnfor, sydd hefyd yn bygwth goroesiad creigresi.
Roedd y dulliau cynhenid o ofalu am ecosystemau’r ynysoedd yn ystyried y tir a'r môr fel un endid cysylltiedig, o’r mynydd i’r môr. Er bod arferion presennol rheoli arfordirol yn dangos dyhead am ddull integredig tebyg, yn ymarferol mae hyn wedi’i lesteirio gan y ffaith bod y tir a’r môr yn aml yn cael eu rheoli gan wahanol asiantaethau lleol.
"Mae'r syniad bod y tir a’r môr yn rhyng-gysylltiedig wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn arferion rheoli adnoddau brodorol yn Hawaii” meddai Dr Jamison Gove o Pacific Islands Fisheries Science Center y National Oceanic and Atmospheric Administration, a chyd-arweinydd yr astudiaeth.