Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dathlu deng mlwyddiant eleni
Ar 10 Tachwedd, daeth cydweithwyr o Sefydliad Confucius Caerdydd, Sefydliad Confucius Caerhirfryn, ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, Prifysgol Bangor a ffrindiau o’r gymuned leol ynghyd i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu Sefydliad Confucius, sefydliad sy’n cynnig blas ar yr iaith a’r diwylliant Tsieineaidd i bawb sydd â diddordeb.
Ar 10 Tachwedd, daeth cydweithwyr o Sefydliad Confucius Caerdydd, Sefydliad Confucius Caerhirfryn, ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, Prifysgol Bangor a ffrindiau o’r gymuned leol ynghyd i ddathlu 10 mlynedd ers sefydlu Sefydliad Confucius, sefydliad sy’n cynnig blas ar yr iaith a’r diwylliant Tsieineaidd i bawb sydd â diddordeb.
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn darparu dysgu, addysgu a phrofi ac yn cefnogi cyfnewidiadau addysg gyda'i phrifysgol bartner: y China University of Political Science and Law. Daeth y sefydliad yn ganolfan uchel ei pharch ar gyfer addysgu iaith Tsieinëeg diolch i ymdrechion ar y cyd y ddwy brifysgol bartner a'r staff Tsieineaidd a lleol gweithgar ac ymroddedig.
Llywyddwyd y digwyddiad gan Dr Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius ac roedd yn cynnwys araith longyfarch gan yr Athro Martina Feilzer, Deon Coleg y Dyniaethau. Cafodd y gwesteion eu swyno gan wledd o gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd, a pherfformiadau dawns ac opera gan fyfyrwyr Academi Ddawns Beijing ac sy’n cael eu lletya ar hyn o bryd gan Sefydliad Confucius Prifysgol Goldsmiths. Fe wnaeth pawb fwynhau perfformiadau Dawnswyr Caernarfon a chael ymuno mewn twmpath ar ddiwedd y noson.
Dywedodd yr Athro Martina Feilzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes.
'Mae Sefydliad Confucius nid yn unig wedi cyfoethogi bywyd diwylliannol Bangor ond hefyd wedi galluogi disgyblion ysgolion lleol a phobl yn y gymuned yn ehangach i ddysgu'r iaith Mandarin a chael dealltwriaeth o ddiwylliant Tsieineaidd. Mae Sefydliad Confucius yn ein hatgoffa bod unigolion yn dod i Brifysgol Bangor o bob rhan o'r byd i fod yn rhan o'n cymuned. Mae’r croeso yr ydym ni yn ei roi iddynt yn effeithio ar eu bywydau nhw fel y maent hwythau hefyd yn effeithio'n fawr ar ein bywydau ni. Ar ran Prifysgol Bangor, dymunaf y gorau i'r Sefydliad yn y blynyddoedd i ddod a daliwch ati gyda'r gwaith rhagorol!'