Sefydliad Confucius Bangor yn cynnal ei Fforwm cyntaf ar Effaith y Newid yn yr Hinsawdd ar Fasnach Ryngwladol a Chyfraith Iechyd
Cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor Fforwm Cyfraith Ryngwladol ar-lein dros ddau ddiwrnod, i roi sylw i’r rhwymedigaethau cyfredol o dan ymbarél bras y Gyfraith Ryngwladol ar y Newid yn yr Hinsawdd. Daeth y Fforwm ag academyddion o Tsieina a'r Deyrnas Unedig ynghyd ac annog trafodaeth a chyfnewid syniadau ymhlith y cynrychiolwyr ar bob lefel.

Ar ran y trefnwyr, dywedodd Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor:
'Roedd y fforwm yn fywiog iawn a nifer o sgyrsiau diddorol, a ddangosodd er bod gwledydd unigol yn gweithio'n ddygn i weithredu deddfau ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, mae llawer i'w wneud o hyd o ran yr angen am gydweithio bydeang ac ymchwil sy'n tywys llunwyr polisïau. Fodd bynnag, daeth yn amlwg bod y gymuned gyfraith ryngwladol yn uchelgeisiol ac yn frwd dros weithio tuag at ddeddfwriaeth a allai arafu’r cyfraniad dynol at y newid anochel yn yr hinsawdd.'
Roedd adborth y cynadleddwyr yn gadarnhaol iawn, ac mae Sefydliad Confucius yn bwriadu cynnal y digwyddiad yn flynyddol!
'Roedd y digwyddiad wedi'i drefnu'n dda, gydag amrywiaeth o bynciau diddorol a pherthnasol i’w gilydd. Er y bu’n rhaid ei gynnal ar-lein, aeth y ffrwd fyw’n dda, a phawb yn medru cyfathrebu a chyfnewid syniadau. Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu.'
'Roedd y fforwm yn gyfle gwych i rannu a dysgu am effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar wahanol feysydd o’r gyfraith ryngwladol. Mwynheais y trafodaethau a oedd yn fywiog ac ysgogol.'
'Gobeithiwn weld mwy o ddigwyddiadau fel hwn!'