Mae cydnabyddiaeth eisoes fod y dylifiad enfawr o’r dŵr croyw hwn i’r Arctig o bosib yn dyngedfennol o ran yr hinsawdd. Hynny yw, fe all greu newid di-droi’n-ôl yn un o systemau’r byd yr ydym yn ddibynnol arno.
Gyda hyn mewn golwg, mae eigionegwyr ym Mhrifysgol Bangor yn arwain tîm ymchwil trawsiwerydd sy’n ceisio deall yn well sut y bydd dŵr croyw yn effeithio ar batrymau tywydd yn y tymor byr ac i wella modelau rhagweld yr hinsawdd i’r dyfodol. Amcan arall sydd ganddynt yw rhagfynegi newidiadau posib i haenau’r cefnfor, ac i sut mae cefnforoedd yn cylchdroi ac yn cludo gwres tua’r gogledd yn yr Iwerydd.
Yr Athro Yueng-Djern Lenn, Athro Eigioneg ym Mhrifysgol Bangor sy’n arwain y project, ac fe’i hariennir gan NERC, sef Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol.
Meddai:
Yr Arctig yw’r gronfa dŵr croyw fwyaf ar y blaned. Ar hyn o bryd mae patrymau cylchdroi yn dal y rhan fwyaf o’r dŵr croyw yng nghylchgerrynt Beaufort yr Arctig. Y cwestiwn yw beth fydd yn digwydd pe bai’r dŵr croyw hwn yn cael ei ryddhau’n sydyn o’r moroedd i’r cefnfor.
Oherwydd bod dŵr croyw yn ysgafnach na dŵr heli mae modd iddo newid y ffordd y mae haenau dŵr gwahanol yn cymysgu. Gall hyn yn ei dro effeithio ar symudiad cerrynt cefnforol a chylchdroad a chludiant haenau o ddŵr cynhesach ac oerach yn ddwfn yn y cefnforoedd. Mae'r rhain mor fawr fel y gallent ddylanwadu ar y jetlif, ac, o ganlyniad, ar ein systemau tywydd.
“Yn ddi-os mae dŵr croyw eisoes yn cyrraedd yr Iwerydd, ac, weithiau, yn cyfrannu at newid yn llwybr stormydd yr Iwerydd tuag at Brydain. Ond, nid ydym yn gwybod yn iawn sut y bydd rhyddhau symiau mawr o ddŵr croyw yn effeithio ar yr ymwneud rhwng rhew, y cefnfor ac atmosffer yng nghylchdroad yr Arctig a Gogledd Iwerydd. A fydd yr holl system yn medru amsugno’r dŵr ac addasu, neu a fydd yn digwydd mor sydyn fel bod hynny’n newid y patrymau cylchdroi presennol, ac a fyddwn ni’n gweld ôl-effeithiau hyn? Awgrymaf mai’r olaf sydd fwyaf tebygol, o ystyried y tywydd yr ydym wedi ei brofi yn y blynyddoedd diweddar.
Mae tîm Lenn ym Mhrifysgol Bangor yn arbenigwyr yn nyfroedd yr Arctig ac mewn cymysgu cefnforol. Eu gwaith fydd dadansoddi data a gesglir o rwydwaith o fwiau ac arnofwyr proffilio sy’n casglu data mewn mannau strategol ar draws yr Iwerydd. Byddant wedyn yn adeiladu ar ddamcaniaeth a ddatblygwyd gan ragflaenydd Lenn yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Yr Athro John Simpson. Bydd y tîm yn defnyddio’r data i gymharu gyda’r efelychydd / model cyfrifiadurol diweddaraf ym Mhrifysgol Texas a’i wella. Bydd cydweithwyr ar y project ym Mhrifysgol Exeter a’r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (National Oceanography Center) yn casglu’r rhagfynegiadau o ran y tywydd a’r hinsawdd.