Nodweddion Graddedigion Bangor

Ym Mhrifysgol Bangor, mae pum thema allweddol sy'n nodweddu ein graddedigion ac yn rhoi mantais iddynt.  Dyma Nodweddion Graddedigion Bangor:

Her

Llun icon her

Rydych yn gadarn yn wyneb heriau. Rydych yn gweld problemau fel cyfleoedd i ddatblygu a dysgu mwy. Mae gennych amrywiaeth o sgiliau sy'n eich helpu i ymdopi pan fyddwch mewn sefyllfa anghyfarwydd. Rydych hefyd yn barod i herio disgwyliadau a safonau pan fo angen.

  • Hyblygrwydd
  • Trafod
  • Gwytnwch
  • Datrys problemau
  • Rheoli cymlethdoadau
  • Hyder
  • Herio normiau
  • Gweithio dan bwysau
  • Gwneud yr anghyfarwydd
  • Cymhelliant
  • Dycnwch

Yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Bangor, efallai y byddwch chi'n herio'ch hun i ddatblygu'r nodwedd hon trwy ymgymryd â’r pethau sy'n fwy anodd i chi.  Cewch aseiniadau amrywiol, er enghraifft, wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddatblygu a defnyddio'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.  Efallai bod rhai o'r rhain yn bethau rydych chi'n llai cyfarwydd â nhw, a byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddysgu sgiliau newydd ac ymgymryd â heriau newydd.  Gwyddom fod pobl yn gweld pethau gwahanol yn heriol, felly mae Prifysgol Bangor yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n rhoi arweiniad ar gyfer eich bywyd academaidd yn ogystal â materion ehangach fel cyflogadwyedd a gyrfaoedd, cyllid a llety, a’ch lles. 

Rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau 

Ymroddiad

Llun Icon Ymroddiad

Mae gennych amrywiaeth o sgiliau y gallwch eu cymhwyso i amgylchiadau amrywiol.  Rydych yn adnabod eich pwnc yn dda ac mae gennych enghreifftiau o sut rydych chi’n defnyddio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth yn y byd go iawn.

  • Llythrennedd digidol
  • Creadigrwydd
  • Cyflwyno ar lafar
  • Cyflwyno'n ysgrifenedig
  • Mentergarwch
  • Gwneud penderfyniadau
  • Sgiliau trosglwyddadwy
  • Profiad byd go iawn
  • Gwerthfawrogi syniadau

Mae'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar eich cwrs wedi'i gynllunio i fod yn ddefnyddiol yn eich gwaith yn y dyfodol.  Cewch gyfleoedd i ddefnyddio'r agweddau damcaniaethol a'r wybodaeth o'ch cyrsiau mewn sefyllfaoedd ymarferol a all gynnwys gweithgareddau yn y dosbarth, profiadau rhithwir, tasgau ymchwil, neu gyfleoedd i fynd ar leoliad gwaith. Mae’r priodoli hwn i’r byd ymarferol hefyd yn ymwneud â'r ymroddiad a ddangoswch wrth ennill eich gradd.  Bydd angen ichi ymrwymo a chanolbwyntio ar eich astudiaethau.  Byddwch yn ymroi i geisio meithrin gwybodaeth a sgiliau.  Bydd eich cwrs yn eich helpu i ddeall sut i reoli’ch amser a strwythuro’ch gwaith i gyflawni eich nodau yn effeithiol.

Ymholiad

Icon ymholiad

Rydych yn chwilfrydig ac yn fodlon ystyried gwahanol syniadau a safbwyntiau.  Gallwch rannu ac amddiffyn eich barn ar sail tystiolaeth gadarn.  Rydych yn gwybod sut i ganfod yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn eich maes. Rydych yn ymwybodol o'r prif heriau yn eich maes ac yn awyddus chwilio am atebion posib.

  • Dadansoddi beirniadol
  • Archwilio
  • Chwilfrydedd
  • Effeithiolrwydd darllen
  • Cymhwyso'r pwnc
  • Ymwybyddiaeth fyd-eang
  • Atgynhyrchu gwybodaeth
  • Dysgu
  • Cynaliadwyedd
  • Sgiliau ymchwil
  •  Gweledigaeth

Un o agweddau mwyaf cyffrous unrhyw radd yw darganfod yr elfennau cwbl gyfareddol am eich dewis bwnc.  Drwy eich astudiaethau byddwch yn dysgu am y canfyddiadau diweddaraf, ac am wybodaeth newydd gan ymchwilwyr mwyaf blaenllaw’r byd.  Bydd sawl maes yn mynd â’ch bryd ond dim ond dechrau'r hyn y gallech ei archwilio yw eich darlithoedd.  Bydd eich cwrs yn eich dysgu sut i ddarganfod mwy.  Byddwch yn dysgu sut i ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy; sut i adnabod bylchau yn yr wybodaeth honno; a sut i fynd ati i lunio'r cwestiynau nesaf a gyfyd o’r ymchwil, a sut i'w hateb hefyd!

Hunangyfeiriad

Icon hunangyfeiriad

Rydych yn gwybod sut i reoli eich gwaith eich hun yn effeithiol.  Gallwch ddefnyddio’ch crebwyll eich hun i ddirnad beth sydd angen ei wneud a sut i gyflawni hynny.  Gallwch asesu eich anghenion datblygiadol eich hun ac rydych yn gwybod sut i ddysgu fel y gallwch barhau i ddatblygu yn eich gyrfa.

  • Trefnu
  • Cynllunio
  • Hunan-ymwybyddiaeth
  • Uchelgais
  • Annibyniaeth
  • Adlewyrchol
  • Blaenoriaethu
  • Cymhelliant
  • Hunan-ddisgyblaeth
  • Defnyddio adnoddau
  • Hunan effeithiolrwydd

Bydd eich astudiaethau yn sicrhau bod gennych yr holl sgiliau a fydd yn eich gwneud yn weithiwr gwerthfawr.  Mae llawer o'r medrau hyn yn gofyn am yr hyder i weithio'n annibynnol ac o’ch pen a’ch pastwn eich hun.  Wrth i chi gwblhau eich gradd ym Mangor, byddwch yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i sicrhau y gallwch gynllunio'ch gwaith a'i gyflwyno'n effeithiol.  Cewch gyfleoedd di-ri i ddysgu sut i gymryd yr awenau o ran canfod atebion, rheoli projectau, ac adnabod eich anghenion datblygiadol fel y gallwch siapio datblygiad eich gyrfa trwy gydol a thu hwnt i'ch rhaglen radd.

Cydweithio

Icon Cydweithio

Rydych yn gweithio'n effeithiol ag eraill.  Gallwch feithrin perthynas gadarnhaol gyda phobl mewn gwahanol swyddi. Rydych yn deall yr hyn y gallwch ei gyfrannu at dîm a sut i gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau.

  • Rheoli
  • Cyd-drafod
  • Dylanwadu
  • Rhwydweithio
  • Gwaith tîm
  • Mentora
  • Meithrin perthynas
  • Gwaith project
  • Cymell eraill

Mae astudio ym Mangor wedi bod yn ddechrau cyfeillgarwch gydol oes i lawer o’n myfyrwyr.  Yn ystod eich amser gyda ni, cewch ddigon o gyfleoedd i adeiladu'r rhwydweithiau a fydd yn eich cefnogi i ddatblygu’ch gyrfa yn y dyfodol.  Mae gwneud hynny'n dibynnu ar ddatblygu sgiliau cydweithio rhagorol.  Drwy gydol eich astudiaethau, cewch eich cefnogi i ddatblygu sgiliau gwaith tîm ac i weithio’n hyblyg wrth ysgwyddo swyddogaethau mewn tîm.  Byddwch yn gallu datblygu sgiliau arwain effeithiol; dysgu trafod a datrys y materion a all godi mewn projectau cydweithredol; a byddwch yn hyderus yn y priodoleddau unigryw y byddwch yn eu cyflwyno i unrhyw dîm.