Mae mwy o gyfleoedd i chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor nac yn unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru, ac mae’r rhan helaeth o’n myfyrwyr ni sy’n siaradwyr Cymraeg yn manteisio ar y cyfleoedd hynny. Mae 9 o bob 10 myfyriwr sy’n siarad Cymraeg yn astudio rhywfaint o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yma. Mae llu o’n darlithwyr sy’n siaradwyr Cymraeg yn arbenigwyr ac wedi cyfrannu’n sylweddol yn eu meysydd. Peidiwch â cholli ar y cyfle felly i dderbyn addysg o’r radd flaenaf drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor!
Faint sydd rhaid ei astudio drwy’r Gymraeg?
Gennych chi fel myfyrwyr mae’r dewis ynghylch faint o’ch cwrs yr hoffech ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch yn y Llawlyfr Modiwlau Cymraeg ar yr holl ddewis o fodiwlau sydd ar gael i’w hastudio yn yr iaith ym mhob pwnc.
Yn ogystal, fel myfyrwyr sy’n siaradwyr Cymraeg, mae gennych chi’r hawl i gyflwyno eich aseiniadau a chwblhau eich arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pob modiwl. Ewch amdani felly – a sylwch isod ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael ar eich cyfer i astudio a chyflwyno gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Manteision byd gwaith
Mae llu o fanteision Cyflogadwyedd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Cofiwch fod:
Cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Cyflogau swyddi dwyieithog yn uwch ar gyfartaledd
Siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod mewn cyflogaeth neu gwblhau astudiaethau pellach ar ôl graddio nag unigolion nad ydynt yn siarad Cymraeg.
Byddai manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i chi i astudio a datblygu eich sgiliau iaith Gymraeg tra’r ydych ym Mangor yn rhoi sylfaen gadarn i chi cyn mentro i’r byd gwaith felly.
Manteision Byd Gwaith o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg