Fideo - Astudio Radiograffeg
Dyma Ameer Rana sef cyflwynydd teledu S4C yn cyflwyno'r cyrsiau Radiograffeg Diagnostig sydd ar gael yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Radiograffeg
Ar ôl graddio o Fangor mewn Radiograffeg Ddiagnostig bydd eich rhagolygon gyrfa yn rhagorol. Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae ein graddedigion wedi cael cyflogaeth 100% o fewn 3 mis o raddio, yn bennaf o fewn y GIG.
Unwaith y byddwch yn gyflogedig, bydd datblygiad eich gyrfa yn cael ei lywio gan ddatblygiad proffesiynol parhaus ac yn sgil hyfforddiant ychwanegol yn y gwaith gallwch arbenigo mewn dull delweddu penodol neu ddatblygu eich gyrfa ymhellach o fewn Radiograffeg fel ymarferydd uwch neu ymgynghorol.
Yn ogystal â gweithio yn y gwasanaeth iechyd, gall radiograffwyr hefyd fynd ymlaen i weithio yn y sector masnachol. Mae gyrfaoedd posib yn cynnwys gweithio fel arbenigwyr rhaglenni sy'n cynnig hyfforddiant i eraill ar ddefnyddio offer yn gywir, gwerthu a Gwybodeg. Mae radiograffwyr yn defnyddio technoleg flaengar ym maes gwybodeg yn y Deyrnas Unedig. Mae'r holl ddelweddu yn y GIG wedi bod yn ddigidol ers 2010, felly bydd gennych sylfaen wybodaeth helaeth i gefnogi gwybodeg mewn meysydd iechyd eraill, gan roi hyblygrwydd gyrfa ychwanegol i chi.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Radiograffeg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Radiograffeg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Radiograffeg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Radiograffeg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Ein Hymchwil o fewn Radiograffeg
Mae ein grwpiau ymchwil i gyd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Rydym yn adeiladu ar lwyddiant BIHMR yn REF2021 i gynnal a chynyddu rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd, meddygol a gofal cymdeithasol. Mae ein hymchwil sy’n ymwneud â’r Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn y 15ed safle yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae'r gwaith yma'n cefnogi cynlluniau blaenllaw'r brifysgol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ar gyfer sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor o 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y Gwyddorau Dynol ac yn helpu i ddatblygu iechyd a gofal cymdeithasol i’r dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn atgyfnerthu twf y sector gwyddorau bywyd y rhanbarth.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.