Mae Prifysgol Bangor yn edrych ymlaen i fynd i mewn i’w 3edd flwyddyn o gyflwyno’r rhaglen perfformiad rygbi i fyfyrwyr ac maent bellach yn adeiladu’r llwyfan ar gyfer tymor 2023/2024. Nid yn unig y byddwn yn darparu rhaglen berfformio ar gyfer ein timau dynion, rydym hefyd yn lansio ein rhaglen perfformiad merched. Mae hyn yn deillio o lwyddiant timau dynion a merched dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Ein nod a’n huchelgais yw bod yn glwb cynhwysol ymysg myfyrwyr a’r gymuned leol. Mae’r llwyddiant hwn wedi arwain Clwb Rygbi Prifysgol Bangor i fod yn un o’r clybiau mwyaf llwyddiannus o fewn yr Undeb Athletau gyda rhaglen perfformiad rygbi sy’n tyfu’n gyflym ac yn cystadlu o fewn cystadlaethau BUCS.
Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr yn ein clwb ac o fewn y gymuned ehangach o fyfyrwyr i ddatblygu ar y cae ac oddi arno. Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu campfa i chwaraewyr, sesiynau sgiliau a hyfforddiant tîm, cynlluniau datblygu unigol 1-1 perfformio ar y cae ac yn academaidd a mynediad at feddyg y clwb. Oddi ar y cae, rydym yn recriwtio ac yn datblygu myfyrwyr o fewn ein rhaglen wirfoddoli i ddod yn fwy cyflogadwy ar ôl graddio. Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys arwain sesiynau cryfder a chyflyru, dadansoddi fideo ar gyfer adborth tîm a hyfforddwyr, therapi chwaraeon ar gyfer adferiad ac atal anafiadau, a swyddogion cyfryngau i gynyddu ymgysylltiad ar-lein.
Rydym yn glwb rygbi deinamig sydd bob amser yn edrych i ddatblygu a darparu'r cyfleoedd gorau i chwaraewyr a staff i wneud cynnydd. Gyda llwyfan cadarn, bydd hyn yn galluogi rygbi o fewn Prifysgol Bangor i fod yn y sefyllfa orau i barhau i dyfu, tra'n cyfrannu at addysg, iechyd, lles meddyliol a chorfforol a chyflogadwyedd chwaraewyr.
Ffurflen diddordeb chwaraewr
Cofrestrwch eich diddordeb yn y rhaglen drwy lenwi'r ffurflen fer hon.
Partneriaid Rygbi
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o glybiau a chyrff chwaraeon.