Ariannu
Yn ogystal â NWCR, rydym yn ddiolchgar i UK Research and Innovation (UKRI), Ymchwil Canser Cymru (CRW) a KESS2, am ariannu ein hymchwil ar hyn o bryd, ac i’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg Gwyddorau Biolegol, MRC, Ymddiriedolaeth Wellcome, Cancer Research UK, Awyr Las a Tenovus am ein cefnogi’n flaenorol.
Sut gallwch chi ein cefnogi?
Er mwyn gallu mynd ymhellach gyda’n hymchwil, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn y cyfarpar, y dechnoleg a’r arbenigedd diweddaraf yn gyson. Gallwch hefyd gefnogi ymchwil yn sefydliad North West Cancer Research Bangor yn uniongyrchol trwy roi rhodd. Mae rhoddion fel rheol yn mynd tuag at brynu'r offer diweddaraf. I sicrhau gwneud y defnydd gorau o’ch rhoddion, bydd unrhyw beth a brynir yn cael ei gymeradwyo gan bwyllgor gwyddonol NWCR, sy’n cynnwys panel o ymchwilwyr canser arbenigol annibynnol.
Os hoffech ein cefnogi, cysylltwch â Dr Edgar Hartsuiker:
Ebostio Dr Edgar Hartsuiker