Mae Edgar Hartsuiker yn Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg Canser yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd. Datblygodd Edgar ddiddordeb mewn ail-gyfuno meiotig a thrwsio DNA yn ystod ei astudiaethau ym Mhrifysgol Wageningen, yr Iseldiroedd (MSc) a Phrifysgol Bern, y Swistir (PhD). Yn ystod ei gyfnod fel ôl-ddoethur yn labordy'r Athro Carr yn y Ganolfan Genome Damage and Stability ym Mhrifysgol Sussex, parhaodd i weithio ar y pynciau hyn a dechreuodd ymddiddori mewn mecanweithiau atgyweirio DNA sy'n atgyweirio niwed i DNA a achosir gan gyffuriau canser o bwysigrwydd clinigol.
Ariannwyd ei waith ar dynnu topoisomerasau mewn celloedd sydd wedi’u trin â chyffuriau canser o bwysigrwydd clinigol gan grant project oddi wrth Cancer Research UK, a bu’n sail i’w gais llwyddiannus am Wobr Sefydlu Gyrfa Cancer Research UK ym Mangor. Ers hynny mae Edgar wedi ehangu ei ddiddordebau i swyddogaeth mecanweithiau atgyweirio DNA wrth wrthsefyll triniaeth gyda grŵp arall o gyffuriau canser o bwysigrwydd clinigol, yr analogau niwcleosid. .
Ar hyn o bryd mae Edgar yn datblygu amrywiaeth o atalyddion yn erbyn gweithgaredd niwcleas Mre11, mewn cydweithrediad â'r Athro Andrea Brancale, gyda'r nod o greu cyffuriau a all dargedu’n benodol canserau â namau amrywiol mewn atgyweirio DNA. Mae gwaith Edgar ym Mhrifysgol Bangor wedi ei ariannu gan Tenovus, Ymchwil Canser Cymru, North West Cancer Research a KESS.