Mae pob gwasanaeth yn gweithredu yr un fath ag arfer.
Fel arfer caiff y dudalen ei diweddaru rhwng 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc a’r dyddiau eraill y bydd y brifysgol ar gau.
Enw Gwasanaeth | Statws Gwasanaeth |
---|---|
Arlwyo | Gweithredol |
Glanhau | Gweithredol |
Trydanol | Gweithredol |
Gwresogi | Gweithredol |
Lifftiau | Gweithredol |
Parcio | Gweithredol |
Diogelwch | Gweithredol |
Cyfleusterau Chwaraeon | Gweithredol |
Dŵr | Gweithredol |
Cyfleusterau Lles/Mannau Newid | Gweithredol |
Cynnal a Chadw wedi'i Drefnu
Ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi, bydd ein contractwr larwm tân CDS yn archwilio'r systemau larwm tân.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws. Fodd bynnag, mae rhestr lawn o'r gwaith i’w gweld yma.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Ym misoedd Mai, Mehefin a Gorffennaf, bydd contractwyr JRS yn gwasanaethu’r boeleri nwy ac yn archwilio'r prif gyflenwadau nwy mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Er y ceisiwn sicrhau y bydd cyn lleied â phosib o amser segur, bydd yn rhaid diffodd y cyflenwadau gwresogi a dŵr poeth dros dro i hwyluso’r gwaith o wasanaethu’r boeleri a’r pibellau.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws. Fodd bynnag, mae rhestr lawn o'r gwaith i’w gweld yma.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.
Fel rhan o'r gwaith ail-lunio parhaus yn sgil dymchwel Tŵr Alun Roberts, bydd project adnewyddu 20 wythnos yn dechrau yn Stryd y Deon ar 10 Mehefin 2024, i wella cyfleusterau labordai’r campws.
I hwyluso'r gwaith, caiff safle allanol ei osod yn y maes parcio y tu ôl i adeilad Stryd y Deon gyda hysbysfyrddau ac arwyddion, ar gyfer storio, sgipiau a pharcio contractwyr. Bydd peth aflonyddwch ar 4ydd llawr yr adeilad tra bydd y gwaith yn cael ei wneud; fodd bynnag, caiff rhywfaint o’r gwaith ei wneud ar y penwythnos i leihau’r aflonyddwch, lle bo modd.
Bydd y llwybrau i mewn ac allan o’r adeilad yn aros yr un fath, a bydd defnyddwyr yr adeilad yn derbyn hysbysiadau pellach os bydd hynny’n newid yn ystod y gwaith.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag l.roberts@bangor.ac.uk neu Desg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.
Bydd contractwyr SFS yn harchwilio y larwm ymyrraeth ar draws y campws yn mis Gorffenaf.
Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws. Fodd bynnag, mae rhestr lawn o'r gwaith i’w gweld here.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.